18 Mehefin 2021
Ddoe, dydd Iau 17 Mehefin, ymgymerodd staff a myfyrwyr o Coleg Gwent â’u her fwyaf hyd yma. I gasglu arian at – elusen y flwyddyn ein coleg – addawodd staff a dysgwyr wneud cymaint o filltiroedd â phosibl mewn 24 awr mewn pob math o ffyrdd. Fe wnaethant redeg, cerdded, beicio, rhwyfo, nofio, sgïo a dawnsio eu ffordd trwy gyfres o ddigwyddiadau codi arian trwy gydol y dydd, i godi arian hanfodol ac ymwybyddiaeth o’r gwaith gwych a wneir gan Ofal Hosbis Dewi Sant.
Gyda’n Cyfarwyddwr Cyfadran Astudiaethau Academaidd a Menter, Ian Millward, yn arwain y ffordd gyda thaith feic epig drwy’r dydd, dechreuodd y digwyddiadau ar godiad haul wrth i Ian ddechrau ar ei daith am 5:30am. Teithiodd gyfanswm o 206.7 milltir a gorffennodd ei her feicio yn union fel yr oedd yr haul yn machlud cyn 10pm, dringodd Ian fynyddoedd, beicio ar ffyrdd a lonydd troellog, ac ymweld â phob un o’n pum campws ar hyd y ffordd. Ymunodd staff eraill ag ef ar gyfer rhannau o’r llwybr a chafodd ei gefnogi gan staff a dysgwyr ar bob campws, fe wnaeth camp feicio wefreiddiol Ian ein sbarduno i fynd y filltir ychwanegol hefyd, gyda llu o ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal ar draws y coleg.
Da iawn i’r holl fyfyrwyr a staff a gymerodd ran yr her a gwneud eu rhan i gefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant. Dywedodd Tania Ansell, Codwr Arian Busnes a Chymunedol yng Ngofal Hosbis Dewi Sant; “Ar ran yr holl gleifion a staff yng Ngofal Hosbis Dewi Sant, diolch i bawb! Mae llwyddiant Ian yn rhyfeddol, da iawn ar gwblhau’r her. Rydym yn teimlo’n wirioneddol ostyngedig ac wedi ein syfrdanu gan eich brwdfrydedd a’ch angerdd am godi arian i’r hosbis ac am fynd y #MilltirYchwanegol. Heno, bydd ein nyrsys hosbis yng nghartrefi cleifion, yn cynnig gofal a sicrwydd i’r cleifion a’u teuluoedd sydd ar daith diwedd oes. Gallwn ddarparu’r gwasanaeth ymroddedig am ddim hwn i’r cleifion oherwydd y pethau yr ydych CHI’N wneud! Rydym mor falch ohonoch i gyd. Rydym yn eich cymeradwyo Coleg Gwent!”
Dyma rai o gampau rhyfeddol y myfyrwyr a staff a gymerodd ran yn yr her Milltir Ychwanegol:
Ar y cyfan ar y diwrnod, llwyddodd staff a myfyrwyr ar draws y coleg i wneud 4,572 milltir anhygoel ac rydym mor falch o’u brwdfrydedd dros achos mor dda.
Da iawn i bawb wnaeth helpu i wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant a diolch am yr holl roddion hael ar gyfer Gofal Hosbis Dewi Sant. Mae rhoddion yn dal i lifo i mewn ac rydym eisoes wedi cyrraedd traean o’r ffordd tuag at ein targed o £10,000 a fydd yn gwneud byd o wahaniaeth i’r elusen. Mae yna amser o hyd i gyfrannu i gefnogi’r her Milltir Ychwanegol – gallwch gyfrannu ar-lein yn gyflym ac yn hawdd trwy ein tudalen Just Giving: .