Â鶹´«Ã½

En
ILS Charity Shop for St David's Hospice Care

Dysgwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol yn agor siop dros dro i Ofal Hosbis Dewi Sant


16 Mehefin 2022

Gallai Dysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent fod yn destun sgwrs i Alan Sugar gyda’u menter ddiweddaraf, siop fanwerthu elusennol dros dro i godi arian i ! Mae’r siop yn cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan fyfyrwyr a staff yr adran ILS ar ein campws yng Nglynebwy, ac maent wedi bod yn gweithio’n galed i osod, stocio a rhedeg eu siop fanwerthu eu hunain.

Mae’r siop ar agor bob dydd Mercher ac yn cynnwys eitemau sydd bron yn newydd ac yn cael eu gwerthu gan fyfyrwyr a staff ar y campws. Mae pob dysgwr yn cael cyfle i chwarae rôl yn llwyddiant y siop. O lanhau’r nwyddau, llenwi silffoedd ac arddangos eitemau, delio â gwerthiant a mantoli arian; mae myfyrwyr yn dysgu hanfodion menter, ac mae’r cyfan at achos da.

Bydd y siop dros dro yn gwerthu eitemau wedi eu brandio yn cynnwys crysau t a bandiau arddwrn o Hosbis Dewi Sant, yn ogystal ag eitemau a roddwyd i’r hosbis megis llyfrau, DVDs a CDs, gemwaith, pecynnau rhodd a dillad. Gall myfyrwyr a staff y coleg fynd â bagiau rhodd Hosbis Dewi Sant adref, eu llenwi â nwyddau nad oes mo’u hangen arnynt, a’u rhoi mewn basged rhoddion ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent er mwyn cynorthwyo i ail stocio’r siop.

Bydd yr holl arian a godwyd yn y siop dros dro yn mynd tuag at waith Gofal Hosbis Dewi Sant, fel . Yn y tair wythnos rydym wedi bod ar agor, mae’r tîm ILS wedi codi dros £300 yn barod!

ILS Charity Shop for St David's Hospice Care

Sut mae’r siop dros dro o gymorth i ddysgwyr ILS

Fel rhan o’u hastudiaethau, bydd dysgwyr ILS yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau a phrosiectau i’w cynorthwyo i integreiddio i’w cymuned, i sefydlu annibyniaeth a hyder, a pharatoi ar gyfer byd gwaith. Drwy gydol eu cwrs, maent yn cymryd rhan mewn prosiectau megis rhedeg siop fwyd a bar smwddi i werthu smwddis ffres i ddysgwyr ar y campws; yn ogystal â dysgu sgiliau coginio a phobi; perffeithio sgiliau byw dyddiol megis smwddio a rheoli arian; dysgu crefftau newydd fel gwneud sebon a chanhwyllau; a gwella eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth.

Mae’r cwrs ILS yn canolbwyntio ar bedair colofn Ddysgu, sy’n seiliedig ar Iechyd a Llesiant, Cyflogadwyedd, Byw’n Annibynnol a Chyfranogiad Cymunedol. Mae’r prosiect siop elusen yn ymgorffori sawl un o’r colofnau hyn, gan addysgu sgiliau hanfodol i’r dysgwyr ar gyfer y gweithle megis cyfathrebu a gwasanaeth cwsmer, cymryd rhan yn y gymuned, a chynnig gwasanaeth i gymuned y coleg.

Nikita Meade, darlithydd ILS, gyda’i grŵp o ddysgwyr cyflogadwyedd sy’n goruchwylio rhedeg y siop elusen. Tra bo dau ddysgwr ac aelod o staff yn rhedeg y siop, mae gweddill y grŵp yn brysur yn golchi a pharatoi dillad ac eitemau eraill yn barod i’w gwerthu. Bydd ein dysgwyr yn cynnal stoc, staffio’r siop, prisio eitemau i’w gwerthu, delio gyda chwsmeriaid, yn ogystal â rheoli stoc tu ôl i’r llenni i sicrhau bod unrhyw ddillad yn lân, wedi eu smwddio ac yn addas i’w gwerthu.

Dysgwch fwy am y cyfleoedd sydd ar gael ar ein cyrsiau ILS ar ein pum campws lleol  yn ein  digwyddiad agored nesaf.