18 Ionawr 2021
Rydym yn hynod falch o gyhoeddi fod un o’n darlithwyr, Kate Beavan, wedi cael yr anrhydedd o dderbyn MBE am ei gwasanaethau i amaethyddiaeth! Mae Kate wedi treulio ei bywyd yn gweithio gydag anifeiliaid a chadwraeth mewn amrywiaeth o swyddi, ac mae hi wedi gweithio yng nghampws Brynbuga Coleg Gwent ers 25 mlynedd. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn addysg, ac mae hi’n mwynhau trosglwyddo ei chyfoeth o wybodaeth i fyfyrwyr sy’n rhannu’r un diddordebau, a bellach mae Kate yn arwain ein gradd sylfaen mewn Iechyd a Llesiant Anifeiliaid boblogaidd.
Yn Coleg Gwent, mae ein tiwtoriaid yn arbenigwyr yn eu meysydd ac yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiad yn eu meysydd pwnc. Cafodd ei magu yng nghefn gwlad, a’i hysbrydoli gan ei thad – gwir wladwr ac awdur, a drosglwyddodd ei gariad a dealltwriaeth am gefn gwlad i Kate. Roedd hefyd yn ddarlithydd ysbrydoledig mewn ysgrifennu creadigol, ac roedd ganddo lyfr nodiadau a beiro yn ei boced bob amser, ac roedd yn swyno pawb â’i ffraethineb cyflym a dealltwriaeth am gymeriadau gwlad a bywyd gwledig. Mae sawl stori a gafodd ei hadrodd dros beint yn y dafarn wedi cael eu trafod yn ei erthyglau, caneuon a llyfrau, gan ysbrydoli cariad Kate at amaethyddiaeth, bywyd gwledig ac addysgu.
Gyfochr â’i gwaith yn y coleg, mae Kate hefyd yn ffermwr ac yn hyrwyddo merched mewn ffermio, wrth gyfrannu at y gymuned leol. Roedd hi’n Gadeirydd Sirol ar gyfer NFU, ac mae’n gwirfoddoli gyda’r Royal Agricultural Benevolent Institution, a Thîm Welsh Marine Life Rescue. Yn ogystal, mae Kate wedi cymryd awenau rôl arall fel Swyddog Prosiect ar gyfer prosiect uchelgeisiol sy’n cael ei arwain gan ffermwyr, yn plannu 1 miliwn o goed yn Ne Ddwyrain Cymru, felly mae bywyd wastad yn brysur ac yn llawn bwrlwm! Os nad oedd hynny’n ddigon i’w chadw’n brysur, sefydlodd , lle mae’n rhedeg cyrsiau ar hwsmonaeth anifeiliaid a sgiliau gwledig, yn cynnwys cneifio defaid, hwsmonaeth defaid, wyna a gwneud seidr. Mae Kate yn credu fod y cysylltiad rhwng bwyd a chefn gwlad yn cael ei gamddeall yn aml. Mae cynhyrchu bwyd a’r amgylchedd yn mynd law yn llaw, ac mae ffermwyr Cymru’n gweithio’n galed i gynnal y cydbwysedd hwn wrth gynhyrchu bwyd fforddiadwy, diogel o ansawdd a chynnal y cefn gwlad hyfryd rydym yn byw ynddo. Felly, mae hi’n mwynhau plethu hyn yn ei haddysgu, a dod â myfyrwyr i’r fferm i weld ar yr olwg gyntaf sut mae’r amgylchedd a bwyd yn gweithio fel un. Mae dysgwyr sy’n astudio’r radd sylfaen mewn Iechyd Anifeiliaid, Llesiant a Gwyddorau Milfeddygol yn elwa o angerdd Kate am rannu ei gwybodaeth ac arferion amaethyddol mewn sefyllfaoedd go iawn.
Gyda chariad at fywyd a’r gymuned wledig, mae’r gweithgareddau hyn wedi bwydo i arfer addysgu Kate, ac wedi ei harwain at gael ei chydnabod yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Gellir dyfarnu gwobr MBE (Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig) ar gyfer bob math o lwyddiannau gwahanol, ond yn aml, caiff ei dyfarnu i gydnabod llwyddiannau cymunedol neu wasanaeth “ymarferol” lleol, sydd wedi bod yn esiampl i eraill – ac mae hyn yn rhywbeth mae hi wedi ei gyflawni dro ar ôl tro gyda’n dysgwyr. Wrth fyfyrio ar ei anrhydedd, dywedodd Kate: “Roedd yn sioc enfawr, ac rwyf dal yn ceisio credu’r peth a dweud y gwir. Derbyniais yr e-bost cyntaf yn gynnar fis Rhagfyr, ond roeddwn yn meddwl mai sbam ydoedd, ac roeddwn am ei ddileu! Yna, cefais lythyr hyfryd a daeth y cyfan yn real. Hyd heddiw, nid wyf yn teimlo fy mod yn ei haeddu, ond mae’r adborth wedi bod yn wych, ac yn well na dim, mae wedi gwneud i ni wenu.”
Nawr, mae Kate yn edrych ymlaen at daith i Lundain ar gyfer y seremoni wobrwyo, pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, ac yn y cyfamser, mae’n parhau i seinio’r utgyrn dros amaethyddiaeth a’r bobl arbennig sy’n gweithio yn y diwydiant drwy ei gwaith haddysgu, ffermio a gwirfoddoli. Ar ran y Coleg, hoffwn estyn llongyfarchiadau enfawr i Kate ar ei llwyddiant arbennig. Os hoffech chi ddilyn ôl troed Kate, ac elwa o’i harbenigedd a gwybodaeth yn y sector, edrychwch ar y cwrs gofal anifeiliaid ac amaethyddiaeth sydd ar gael yn Coleg Gwent, yma.