Â鶹´«Ã½

En
CaTS Charity Challenge for St David's Hospice Care

Lycra, speedos, esgidiau rhedeg, a chwysu...oll at achos da


8 Ebrill 2021

Dros y gwyliau hanner tymor Pasg, mae ein tîm rheoli cyfadran Astudiaethau Creadigol a Thechnegol (CaTS) wedi bod yn gwisgo eu Lycra, speedos ac esgidiau rhedeg, i feicio, cerdded, nofio neu redeg y pellter o Land’s End i John o’ Groats, sy’n cynnwys swm enfawr o 874 milltir i godi arian ar gyfer Gofal Hosbis Dewi Sant, ein helusen ddewisol ar gyfer y flwyddyn.

Gyda llawer o ddigwyddiadau codi arian elusennol yn cael eu canslo oherwydd cyfyngiadau COVID, meddyliodd y tîm y tu hwnt i’r bocs gan greu eu her eu hunain y gellid ei chwblhau’n annibynnol, ond gydag ymdrech tîm cydweithredol. Rhyngddynt, gwnaethant benderfynu casglu’r milltiroedd trwy gerdded, rhedeg, nofio a beicio yr un hyd â Phrydain Fawr, o’u stepen drws.

John Sexton's bike ride for St David's Hospice Care

Mae’r tîm, sy’n cynnwys John Sexton, Nigel Ridout, Cath Cross, Maria Retter, Matt Collins, Kerry Hooper, Dan Wooldbrige, Cathie Evans, Rhian Claire Reardon, Dave A’Court, Paul Cross, Angharad Lloyd Baynon o City and Guilds, ac amrywiol bartneriaid, oll wedi bod yn gwneud eu rhan i gyfrannu tuag at gyrraedd y cyfanswm mawreddog o 874 o filltiroedd erbyn hanner nos ar ddydd Sul 11 Ebrill. Gwnaethant benderfynu creu eu her codi arian eu hunain ar ôl darganfod bod COVID wedi achosi cymaint o ganslo digwyddiadau codi arian i elusennau fel Gofal Hosbis Dewi Sant dros y 12 mis diwethaf, gan ei gwneud yn fwy ac yn fwy anodd parhau i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol yn ein cymunedau. Felly, roeddent yn awyddus i wneud eu rhan a helpu mewn unrhyw ffordd y gallent, a arweiniodd atynt i gynllunio eu her y Pasg.

Bu i dîm CaTS ganfod ei bod yn ffordd wych o uno mewn cyfnod pan rydym oll wedi bod yn cadw ar wahân yn ystod y pandemig. Gwnaethant gwblhau eu rhediadau, teithiau cerdded, nofio a reidiau beic yn annibynnol, gan ychwanegu eu milltiroedd mewn cyfanswm torfol ar hyd y ffordd. Bu iddynt frwydro yn erbyn yr elfennau, gan ddod ar draws gwynt, haul, glaw a thymereddau rhewllyd! Roedd yn ymddangos bod y pedwar tymor yn mynd a dod yn ystod hanner tymor y Pasg, ond ni wnaeth hynny eu hatal rhag mynd allan a gwthio eu hunain i gyrraedd eu nod. Ac er na allent fynd allan a chyflawni’r milltiroedd gyda’i gilydd, daeth y tîm CaTS i ddarganfod bod eu her Pasg wedi dod â nhw at ei gilydd fel tîm trwy weithio tuag at nod a rennir.

Ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi gwneud hynny – gwnaethant gyflawni 1,171 milltir gyda’i gilydd yn ystod hanner tymor y Pasg! Roedd yn ymdrech tîm gwych, a’r her gyntaf o nifer o heriau codi arian y maent yn eu cynllunio eleni i gefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant.

Sally Sexton and friend on bike ride for St David's Hospice Care

Eglurodd Nigel Ridout, Pennaeth yr Ysgol Adeiladu a rhan o dîm her CaTS;

“WAW – am Basg prysur! I ddechrau, y cynllun oedd gosod Her i dîm rheoli CaTS ac i eraill wneud gweithgareddau a fyddai’n gyfwerth â’r pellter o Land’s End i John O’ Groats, sy’n 603 milltir fel hed y frân.

Gwerthfawrogwn yr ymateb gwych i’n hapêl am gyfraniadau ariannol ar Facebook, Twitter a LinkedIn – diolch am eich cyfraniad. Mae am wneud gwahaniaeth mawr i’r bobl y mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn eu cynorthwyo.

Cafwyd rhai symiau hynod hael gan gyfeillion, teuluoedd a chydweithwyr, ac fe roddodd hynny dân yn ein boliau. Yn wir, gyda’ch holl gefnogaeth a’r cyfraniadau a gawsom, fe anogwyd y tîm i’r fath raddau nes yr wyf yn falch o gyhoeddi nid yn unig y cyflawnasom y targed o 603 milltir, ond aethom y tu hwnt i’r targed gyda chyfanswm o 1171.82 o filltiroedd erbyn diwedd y dydd, ddydd Sul 11 Mawrth.

Bu i’r her ein gwthio i redeg, cerdded, beicio a nofio ym mhob tywydd gyda rhai dyddiau yn lobsgóws o’r pedwar tymor ac yn ein gadael yn oer, gwlyb ac yn meddwl tybed a fyddai rhannau o’n traed yn dod yn fyw eto? Diolch byth – fe wnaethant! Wedi dweud hynny, ni chawsom ein digalonni.

I’r gwrthwyneb, gwnaed hynny i ni gefnogi ein gilydd fwy a’n hysbrydoli ni gyd i fynd amdani a gwneud ychydig mwy y diwrnod wedyn a’r diwrnod wedi hynny. Ni phylodd ein brwdfrydedd unwaith. Cawsom gyfnodau pan wyddom y byddwn yn flinedig ac mewn poen, ond gwisgasom ein dillad a thorchi ein llewys (neu yn rhai achosion, gwisgo pâr ychwanegol o lewysau) a mynd amdani i wneud ein rhan at achos da.

Rhoddodd bob aelod o’r tîm ymdrech wych a daliasant eu tir. Teimlaf fod rhwymedigaeth foesol arnaf i sôn am dri arbennig a gefnogodd hyn gyda’r fath argyhoeddiad… John Sexton a gyflawnodd ychydig llai na 200 milltir, a Kerry Hooper a Matt Collins yn ei ddilyn, y ddau yn cyflawni dros 150 o filltiroedd. Fodd bynnag, i gyrraedd y 1171.82 o filltiroedd a gyflawnasom roedd angen y tîm cyfan a’u cefnogaeth arbennig tuag at ei gilydd a’r rheiny a gyfrannodd i’n galluogi i gyrraedd yno.

Am hynny, diolch i chi gyd. Mae wedi ein hysbrydoli i ddal ati, ac rydym wrthi’n trafod fel tîm i benderfynu ar y digwyddiad/her nesaf. Gwn y bydd yn wych bod yn rhan ohono a bydd gan y rhai nad oeddynt yn gallu neu na gafodd y cyfle i gyfrannu y tro hwn yn cael digonedd o gyfleoedd yn fuan eto.

Felly, rwyf am eich gadael am nawr gyda Diolch yn Fawr unwaith eto, a chofiwch gadw llygad amdanom!”

Dangoswch eich cefnogaeth a helpwch y tîm CaTS i gadw’r momentwm trwy wneud cyfraniad ar ein .