Â鶹´«Ã½

En
Abi's story

Llwyddo fel entrepreneur: Stori Abi


1 Tachwedd 2022

Ydych chi erioed wedi bod eisiau rhedeg eich busnes eich hun a bod yn fos arnoch chi eich hun? Gwnewch hyn yn ddyfodol i chi yn Coleg Gwent!

Byddwch yn ennill cymhwyster yn y coleg, ond mae llawer mwy iddi na hynny. Mae ein cyrsiau yno i roi’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich dyfodol. Felly, tra byddwch chi’n astudio, cewch fynediad at ystod eang o wasanaethau cymorth Ìý²¹ chyfleoedd all-gwricwlaidd  i gyfoethogi eich profiad dysgu a’ch paratoi am lwyddiant.

Mae llawer o’n myfyrwyr, sydd yn ysbrydoliaeth i eraill, yn mynd ymlaen i ddatblygu eu syniadau disglair i fod yn fusnesau llewyrchus, a gallech chithau hefyd. Mae tîm CG Uchelgeisiau wrth law i’ch helpu chi gyda chyngor ar fenter a gyrfaoedd, boed chi eisiau:

  • Perffeithio eich CV
  • Cael profiad gwaith
  • Paratoi am gyfweliadau
  • Edrych ar eich syniadau entrepreneuraidd
  • Gwella eich sgiliau cyflogadwyedd
  • Neu ddatblygu cynllun busnes deniadol

Felly, beth bynnag fo’ch dyheadau am fusnes, gallwch lwyddo yn Coleg Gwent.

Edrychwch ar ein cyrsiau llawn amser

Llwybr Abi at lwyddiant

Gwelodd Abigail nad prifysgol oedd y dewis iawn iddi hi a phenderfynodd fynd i’r coleg i gael dechrau o’r newydd. Wedi iddi astudio Lefel 3 Diploma Estynedig mewn Busnes, aeth ati i lansio ym mis Hydref 2019 gyda chymorth Coleg Gwent, Tafflab ac Ymddiriedolaeth y Tywysog. Ewch i weld sut fu i Coleg Gwent helpu Abi i lwyddo yn y byd busnes:

“Feddyliais i ‘rioed y gallwn i gael busnes. Ond pan roeddwn i’n teimlo ar goll yn llwyr, a ddim yn gwybod beth i’w wneud efo fy mywyd, cefais hysbysiad ar fy ffôn yn dangos cwrs ar Gampws Dinas Casnewydd Coleg Gwent a phenderfynais gofrestru i roi cynnig ar rywbeth cwbl wahanol.

Roedd y coleg mor groesawgar ac mae cymuned wych yno. Meddyliais am syniad i fy musnes yn ystod asesiad, ac mi gredodd Coleg Gwent yn fy syniad o’r cychwyn a rhoi’r hyder yr oedd ei angen arnaf i fynd â phethau i’r lefel nesaf. Cefais gyngor gan y Coleg i gyflwyno fy syniad i a roddodd gyllid ac arweiniad i mi gychwyn arni gyda fy syniad. Wedyn, ymunais â theulu a chael cefnogaeth a chymorth ar hyd fy nhaith.

Mae fy musnes, , yn paratoi basgedi moethus gyda’r cynnyrch gorau o Gymru. Rydym yn cefnogi llawer o fusnesau bwyd a diod annibynnol lleol ar draws Cymru ac yn dangos ein cynhyrchion ar ein gwefan ac i’r farchnad gorfforaethol. Rydym hyd yn oed wedi gweithio gydag amrywiol gleientiaid proffil uchel yn ystod ein blwyddyn gyntaf ac enwebwyd fy musnes yn ‘Anrheg Foethus a Chorfforaethol Orau’ yn y DU yn 2020!

Mae’r syniad o gael busnes yn gallu bod yn eithaf brawychus, felly mae’n bwysig iawn cael rhwydwaith cryf a chefnogol o’ch cwmpas chi. Er hynny, mae’r cymorth a gefais wedi bod yn anhygoel.

Fy nghamp fwyaf yw cyrraedd rownd derfynol Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn 2020 yng Nghymru. Rydw i wedi cael fy ngwahodd yn ôl i Tafflab i fod yn fentor ac yn llysgennad ifanc i Ymddiriedolaeth y Tywysog, a defnyddio fy mhrofiad i annog darpar entrepreneuriaid. Mae fy nhaith yn dangos nad prifysgol oedd y dewis iawn i mi. Nid oes yr un llwybr cywir nac anghywir i’w gymryd mewn bywyd. Mae’r daith yn unigryw i chi ac mae’n bwysig i chi fynd ar ôl rhywbeth sy’n eich gwneud chi’n hapus!â€

 

Dilynwch yn olion traed Abi a LLWYDDO yn y byd busnes gyda Coleg Gwent!

Ymunwch â’n digwyddiad agored nesaf i gael golwg ar ein cyrsiau, cyfarfod â’n tiwtoriaid, trafod eich opsiynau, neu gael gwybod mwy am ein gwasanaethau cymorth, a gwneud cais nawr!

Abi

Gwireddwch eich galwedigaeth a Llwyddo gyda’n hamrywiaeth o gyrsiau llawn amser!