28 Ionawr 2022
Datblygodd cyn fyfyriwr Colur Theatrig a’r Cyfryngau , , y sylfaeni ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant colur yn Coleg Gwent. Arweiniodd hyn hi at drefnu digwyddiad proffil uchel yn Celtic Manor Resort mis Ionawr gyda’r artist colur byd enwog .
Gyda chariad at arlunio, gradd mewn Dylunio Ffasiwn, a chymwysterau mewn Celf, roedd Jenna wrth ei bodd gyda golwg y prostheteg a’r creadigrwydd oedd yn rhan o’r cwrs Colur Theatrig a’r Cyfryngau. Dewisodd Coleg Gwent gan fod Campws Crosskeys yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau sy’n darparu ar gyfer agweddau creadigol colur, ac fe wnaeth fwynhau’r cymorth, y dosbarthiadau bach a’r cyffyrddiadau personol yr oedd y coleg yn ei gynnig. Galluogodd y cwrs Jenna i fod yn greadigol hefo’i gwaith – “Mae celf yn gelf ac roeddwn wrth fy modd mod i’n gallu cyfleu fy hun ar y cwrs hwn!”
Cawsom sgwrs gyda Jenna i gael gwybod mwy am beth mae hi wedi bod yn ei wneud ers gadael y coleg…
“Ar ôl gadael y coleg, mi es i deithio i Awstralia gan wneud colur gwesteion enwog ac elît yng ngwesty Four Seasons a Shangri-la, a oedd yn brofiad anhygoel.
Rwyf wedi ennill sawl gwobr colur a gwallt yn ystod fy nghyrfa. Dwi hyd yn oed wedi cwblhau Record Byd Guinness am y Steilydd Gwallt cyflymaf. Roeddwn i’n teimlo bod modd gwthio fy sgiliau colur a gwallt drwy ddiploma pan wnes i gymhwyso fel Artist Colur, ac roedd yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar y ddau fel gyrfa llawn amser.
Ers hynny, rwyf wedi cwblhau cymhwyster addysgu GHA, felly dwi’n gallu addysgu ac achredu cyrsiau colur fy hun. Yna wyth mlynedd yn ôl, mi agorais salon harddwch llwyddiannus ar gyfer colur a gwallt a phriodasau. Galluogodd y cymhwyster o Gampws Crosskeys fi i gael y sicrwydd yr oeddwn ei angen i agor fy , rhywbeth na fyddwn wedi’i wneud heb Coleg Gwent!”
“O ddydd i ddydd, dwi’n gwneud treialon ar gyfer priodasau a llawer o waith gweinyddol yn ystod yr wythnos. Yna ar benwythnosau, dwi’n gwneud colur ar gyfer priodasau yn bennaf. Fodd bynnag, mae gennym briodasau ganol wythnos hefyd, yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn. Mae fy mis Awst arferol yn cynnwys tua phum priodas ar hugain, sy’n golygu mod i’n gweithio ar briodas bron bob dydd. Ond yn ystod misoedd tawelach, dwi’n gweithio ar setiau ffilm lleol ac yn gwneud dyddiau colur rhithiol ar gyfryngau cymdeithasol.”
Yr Artist Colur rhithiol enwog Mimi Choi ydi ysbrydoliaeth Jenna. Wedi’i lleoli yn Vancouver, mae Mimi yn adnabyddus am ei gwaith arloesol sydd wedi bod ar sioeau teledu rhyngwladol, cylchgronau, fideos cerddoriaeth a hyd yn oed y Met Gala 2019.
Mae Jenna wedi gweithio’n galed i drefnu digwyddiad sy’n dod â Mimi i Gymru am y tro cyntaf i ddangos ei thalentau ac i ysbrydoli Artistiaid Colur mewn dosbarth meistr celfyddyd colur. Bydd Mimi yn rhoi arddangosiad byw o’i gwaith mewn profiad dysgu 5 awr yn Celtic Manor Resort ar 31ain Ionawr 2022, gyda nifer cyfyngedig o .
Mae Campws Crosskeys Coleg Gwent yn falch o fod yn brif noddwr y dosbarth meistr, lle gall myfyrwyr brofi sgiliau celfyddyd colur rhithiol anhygoel gan dalent ryfeddol. Bydd y dosbarth meistr yn cynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb rhyngweithiol a fydd yn rhoi cyfle prin i’r Artistiaid Colur sy’n mynychu wybod mwy am lwyddiant byd-eang Mimi. Gall mynychwyr ddod â’u colur eu hunain gyda nhw i ail greu’r awgrymiadau a thriciau mae Mimi yn eu rhannu, a byddant yn derbyn tystysgrif cwblhau ar ôl y digwyddiad a bag o anrhegion gwerth dros £75.
Mae Jenna wedi edmygu gwaith Mimi ers blynyddoedd ac mae’n gyffrous ei bod yn dod i Gymru i “gyfle na ellir ei golli i rai sy’n caru colur.” Bydd Mimi Choi yn mynychu parti dethol wedi’r digwyddiad yn Salon Jenna McDonnell yng Nghasnewydd, gydag adloniant gan y cerddor Jack Perrett.
Ydych chi eisiau dilyn ôl traed Jenna? Yn Coleg Gwent, mae gennym gyrsiau harddwch lefel mynediad ar gael ar draws tri o’n campysau – Casnewydd, Parth Dysgu Blaenau Gwent Champws Crosskeys. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am sut y gallwch lwyddo yn y diwydiant harddwch fel y gwnaeth Jenna – Cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiad agored nesaf nawr!