28 Mai 2020
Wrth i ni ddathlu Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang 2020, mae’n amlwg bod hygyrchedd yn fwy pwysig nag erioed o fewn ein byd digidol. Mae pandemig COVID-19 wedi gwneud technoleg a chyfathrebu digidol yn rhan fwy canolog o’n bywyd bob dydd. Nawr, rydym yn defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid; i addysgu a dysgu o bell; a gweithio ar y cyd ar-lein. Yn Coleg Gwent, rydym wedi gwneud pob ymdrech i ddefnyddio technoleg a hyrwyddo hygyrchedd i bawb.
Rydym yn gweithio’n galed i ragori yn y maes hwn, gan fod gwefan hygyrch yn golygu bod pawb yn cael eu cynnwys. Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ein gwefan newydd yn bodloni , yn ogystal â bodloni . Felly, rydym yn hynod falch fod wedi sylwi ein bod ni’n cyflawni cydymffurfiaeth reoleiddiol, hyd yn oed gyda’r her ychwanegol o ddarparu gwefan sy’n gwbl ddwyieithog. Yn wir, ni yw’r unig goleg yng Nghymru sy’n bodloni rheoliadau’r llywodraeth ar hyn o bryd, ac rydym yn , sy’n gwneud Coleg Gwent yn enghraifft o arfer dda!
Rydym yn goleg cynhwysfawr sy’n cynnig rhywbeth i bawb, ac mae gwefan hygyrch yn golygu bod cymaint o bobl â phosib yn gallu ei defnyddio – p’un a oes gennych nam ar y clyw neu’r golwg, anabledd dysgu neu symudedd. Mae’n golygu bod angen i ni addasu ein cynnwys a newid fymryn ar ddyluniad tudalennau gwe. Defnyddio meddalwedd arbenigol megis darllenwyr sgrin a meddalwedd adnabod llais. A chynnig cynnwys mewn ffurfiau amgen megis recordiad sain. Mae’r holl bethau hyn yn cefnogi gwefan sy’n gweithio i bawb sydd ei hangen…a dyna yw ein nod!
Gan amlaf, mae’r tudalennau gwe mwyaf hygyrch yn gynt ac yn fwy rhwydd i’w defnyddio, ac rydym yn gwneud ein testun mor syml â phosib i chi ei ddeall. Adeiladwyd ein gwefan gan ddefnyddio’r offer diweddaraf i gynyddu hygyrchedd, sy’n golygu eich bod yn gallu:
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n goleg cynhwysfawr sy’n cynnig rhywbeth i bawb, ac mae hygyrchedd ein gwefan yn rhan fawr o hyn.
Am ragor o wybodaeth am sut rydym wedi gwneud ein gwefan yn hygyrch, edrychwch ar ein datganiad hygyrchedd.