18 Mawrth 2021
Enw: Jack Bright
Cartref: Trefddyn
Cwrs: Colegau Gyrfaoedd BTEC Technolegau Digidol Lefel 3
Campws: Campws Crosskeys
Astudiodd Jack ein cwrs Colegau Gyrfaoedd BTEC Technolegau Digidol Lefel 3 yng Nghampws Crosskeys yn 2018, cyn symud ymlaen i astudio ei Radd Faglor ym . Dewisodd y cwrs hwn oherwydd ei fod yn ymdrin â llawer o feysydd cyfrifiadura, a rhoddodd gyfle iddo gael cynnig heb amodau yn y brifysgol. Darllenwch ymlaen i glywed stori Jack…
Pam ddewisaist ti’r cwrs hwn?
“Dewisais Coleg Gwent gan fod y cwrs Colegau Gyrfaoedd Technolegau Digidol yn ymdrin â llawer mwy na chyrsiau cyfrifiadura lefel A. Yn hytrach na chanolbwyntio ar un elfen megis Cyfrifiadureg, rydych yn dysgu nid yn unig hynny ond llawer o sgiliau eraill all eich helpu i benderfynu ar eich gyrfa yn y dyfodol. I mi, Seiber-ddiogelwch oedd hyn.”
Beth oedd y peth gorau am astudio yn Coleg Gwent?
“Gydol fy amser yn Coleg Gwent, cefais gwrdd â rhai o’m ffrindiau agosaf a chefais gefnogaeth wych gan y staff. Roeddent yn fy helpu i ymlacio a rhoi sicrwydd i mi pryd bynnag yr oedd ei angen arnaf. Ro’n i hefyd yn hoffi’r modiwlau mwy ymarferol megis Dylunio Digidol a Datblygu Gemau, ond ro’n i hefyd yn mwynhau’r gwersi theori mewn modiwlau ar sail diogelwch.”
Beth oedd dy gyflawniad mwyaf yn Coleg Gwent?
“Yn Coleg Gwent, gofynnwyd i mi gymryd rhan mewn Cystadleuaeth Rhwydweithio yn ystod y . Nid oeddwn erioed wedi Rhwydweithio fel hyn o’r blaen, ond drwy adolygu sail rhai o’r sgiliau fyddai ei hangen, llwyddais i ddod yn y drydydd safle yn fy nghystadleuaeth! Cyflawniad arall i mi oedd gwneud yn well yn fy ail flwyddyn, llwyddais i fynd o Basio yn fy mlwyddyn gyntaf i gael 3 theilyngdod ar y cyfan.”
Beth wyt ti’n ei wneud nawr, a beth yw dy dargedau hirdymor?
“Bellach, rwy’n astudio fy Ngradd Faglor ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd – cefais gynnig o le heb amodau a hoffwn ddiolch i Coleg Gwent am hynny. Cefais lawer iawn o brofiad wrth astudio yno, ac ro’n i hyd yn oed yn gweithio i Yswiriant Admiral drwy’r coleg.
Nid yn unig hyn, ond llwyddais i fagu cymaint o hyder drwy Coleg Gwent ’r Ymddiriedolaeth Colegau Gyrfaoedd. Ro’n i’n swil pan ddechreuais yn y coleg, ond drwy’r Ymddiriedolaeth Colegau Gyrfaoedd llwyddais i ddysgu llawer o sgiliau busnes megis rheoli amser, gweithio mewn grŵp, hyder ac iaith fusnes. Diolch i’r cynllun Colegau Gyrfaoedd, adeiladais fy hyder yn ddigon cyflym i siarad ym Mhencadlys Gwasanaethau Ar-lein Amazon (AWS) yn Llundain.”
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yn Coleg Gwent?
“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n meddwl am astudio yn Coleg Gwent yw ewch amdani. Ro’n i’n betrusgar am y coleg i ddechrau, ond diolch i’r coleg, rwyf wedi cyflawni cymaint yn 19 oed ac rwyf ar y ffordd i gyflawni llawer mwy. Ni fyddwn yn y sefyllfa hon heb Coleg Gwent.”
Os yw stori Jack wedi’ch ysbrydoli ac os hoffech ddod o hyd i gwrs sy’n rhoi profiad bywyd go iawn i chi, gallai un o’n cyrsiau Colegau Gyrfaoedd fod yn berffaith i chi. Mae ein cyrsiau Colegau Gyrfaoedd ar gael mewn Technolegau Digidol ’r Gwyddorau Iechyd, felly maent wedi cael eu dylunio’n benodol gyda chyflogwyr lleol i lenwi bylchau sgiliau yn Ne Cymru. Felly, gallwch gymryd rhan mewn prosiectau diwydiannol go iawn a magu profiad yn y gweithle fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Rydym wedi cydweithio gyda chwmnïau fel Amazon, DVLA a Cisco, i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfleoedd i chi ac i’ch paratoi at fyd gwaith pan fyddwch yn gadael y coleg. Byddwch yn dysgu’n union beth mae cwmnïau eu hangen gan gyflogeion posibl, ac mae llawer o fyfyrwyr fel Jack wedi mynd ymlaen i wneud prentisiaethau, mynd i brifysgol a chyflogaeth. Edrychwch drwy ein cyrsiau a dysgwch bopeth am Golegau Gyrfaoedd bywyd yn Coleg Gwent yn ein digwyddiad agored rhithwir nesaf.