26 Tachwedd 2020
Enw: Megan Chard
Cartref: °ä·É³¾²ú°ùâ²Ô
Cwrs: Tystysgrif Lefel 2 Hyfforddiant Campfa YMCA
Campws: Parth Dysgu Blaenau Gwent
Mae chwaraeon a ffitrwydd wedi bod yn rhan bwysig o fywyd y cyn-feiciwr Cymreig proffesiynol, Megan Chard, erioed. Gydag angerdd dros chwaraeon, roedd hi wastad eisiau cwblhau cwrs hyfforddwr campfa, ond nid oedd hi’n cael y cyfle pan oedd hi’n rasio’n broffesiynol. Ond gyda sefyllfa COVID-19, mae Megan wedi cael amser i ganolbwyntio ar bethau eraill yn lle hynny, ac roedd hi’n gallu cofrestru’n hwyr ar y cwrs roedd hi wastad eisiau ei wneud. Darganfyddwch fwy am lwybr Megan at lwyddiant…
Pam dewis Tystysgrif Lefel 2 Hyfforddiant Campfa YMCA?
“Ar y cyfan, yr athletwr (beicio) oeddwn i bob amser ond yn ddiweddar, rwyf wedi cael cyfle i weithio gydag amryw o wahanol feicwyr a rhannu fy arbenigedd o’m profiad o feicio proffesiynol. Roeddwn bob amser eisiau gwneud fy nghwrs hyfforddwr campfa ond ni chefais erioed y cyfle oherwydd rasio, ond gyda sefyllfa COVID-19… mae wedi rhoi llawer o amser i mi ganolbwyntio ar bethau eraill.
Dechreuais yng Ngholeg Gwent i ennill fy nghymwysterau Hyfforddwr Personol campfa ac rwyf wrth fy modd gyda’r syniad o wella eich hun ac ennill trwyddedau ardystiedig. Nid yn unig y mae’n cynyddu eich cyflogadwyedd, ond mae hefyd yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy i chi a’r cyfle i gwrdd â phobl newydd. Roeddwn hyd yn oed yn gallu cofrestru’n hwyr, ond yn gyflym iawn ar y cwrs!”
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?
“Mae’n teimlo fel fy mod i’n ailedrych ar rai o’r pethau a ddysgais wrth wneud fy Safon Uwch yn yr ysgol – mae bron yn rhoi fflachiadau i mi o atgofion yr wyf wedi’u hanghofio. Mae fy nghwrs hyd yma i gyd wedi bod ar-lein, felly nid wyf wedi cael y cyfle i edrych ar y cyfleusterau eto, ond rwy’n edrych ymlaen at wneud y gwaith ymarferol.”
Pam y dewisoch chi Coleg Gwent?
“Dewisais Coleg Gwent oherwydd ei fod yn lleol i mi ac mae ganddo’r fath amrywiaeth o gampysau a chyrsiau o amgylch De Cymru. Mynychais y chweched dosbarth i wneud fy Safon Uwch a’r Brifysgol Agored pan oeddwn i ffwrdd yn rasio yng Ngwlad Belg – ond gohiriwyd fy nghwrs felly roeddwn i’n chwilio am gyfleoedd pellach i ddysgu a gwella fy hun. Roedd i’w weld mor hawdd a chyfleus i ddechrau gyda Coleg Gwent ar gwrs oedd wastad yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud!”
Beth yw eich nodau hirdymor, a sut y credwch fydd coleg yn eich helpu i gyflawni hyn?
“Mae fy holl nodau bywyd a gyrfa wedi cymryd tro enfawr yn ddiweddar. Yr adeg hon y llynedd, roeddwn yn hyfforddi’r fwy caled nag erioed ar gyfer y tymor rasio yng Ngwlad Belg. Ond cefais ddamwain drwg ac roedd yn rhaid imi fynd i’r ysbyty. Yna, daeth y tymor i ben oherwydd sefyllfa COVID, a phan yr oeddwn i eisiau mynd yn ôl ar fy meic o’r diwedd, byrstiodd fy mhendics.
Nid oedd gen i lawer o gymhelliant ar ôl hynny, ac nid oeddwn am ymladd dros rywbeth nad oeddwn i wir ei eisiau. Nid wyf yn dweud na fydda i byth yn mynd yn ôl at feicio proffesiynol – ond am y tro, rwyf wir eisiau canolbwyntio arnaf fi fy hun a’m nodau.
Felly, dechreuais fy fy hun lle rwyf i ac ychydig o hyfforddwyr eraill yn gweithio gydag athletwyr o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd ar raddfa fyd-eang. Mae gweld eu gwelliannau bron yn mynd yn gaethiwus, i’r pwynt lle’r oeddwn am ddysgu mwy a bod yr hyfforddwr gorau ar eu cyfer.
Mae’r gampfa yn rhywbeth sydd hefyd yn bwysig iawn gyda beicio, felly roedd y cwrs hwn yn dda iawn ac yn gyfleus i mi nid yn unig ennill cymhwyster cydnabyddedig, ond hefyd i roi’r hyn rwy’n ei ddysgu ar waith gyda fy athletwyr.”
Y peth gorau am astudio yn Coleg Gwent?
“Y peth gorau yw’r gefnogaeth, ac mae’n hawdd cyfathrebu â’r tiwtoriaid ac maent yn darparu cymaint o help mor gyflym. Cyn gynted ag y holais am y cwrs ac o fewn wythnos, roeddwn yn dysgu, er fy mod yn hwyr yn cofrestru ar y cwrs. Aeth fy nhiwtor allan o’i ffordd i’m cefnogi a’m helpu i ddal i fyny ac rwy’n credu bod hynny mor glên.”
A oes gennych gyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio eich cwrs yn Coleg Gwent?
“Os gallwch ddysgu ac ennill cymwysterau, rwy’n credu y dylech wneud hynny. Yn enwedig os yw’n gyfleus i chi. Po fwyaf rydych chi’n ei wybod, gorau oll gan y byddwch yn ffynnu fel person. Mae gwybodaeth yn bŵer ar ddiwedd y dydd.”
Mae cyrsiau Coleg Gwent yn hyblyg i weddu i’ch ffordd brysur o fyw, p’un a ydych yn rhiant, yn jyglo amrywiaeth o hobïau, yn gweithio’n llawn amser, neu hyd yn oed os ydych chi’n berson chwaraeon proffesiynol fel Megan! Darganfyddwch ein hystod o gyrsiau rhan-amser a gwnewch gais nawr i ddechrau’r cwrs rydych chi wastad wedi bod eisiau ei astudio.