Â鶹´«Ã½

En
January college courses - new year new challenge - part time Coleg Gwent learners

Blwyddyn newydd, her newydd


4 Ionawr 2022

Mae mis Ionawr wedi cyrraedd ac mae 2022 wedi cael cychwyn gwych yn Coleg Gwent. Mae gennym ystod o gyrsiau cyffrous yn cychwyn y mis Ionawr hwn ar ein campws lleol, gyda chyfleoedd gwych i ddysgu rhywbeth newydd eleni.

P’un a ydych mewn cyflogaeth ac yn chwilio am newid gyrfa, yn anelu at gael dyrchafiad eleni, neu eisiau datblygu diddordeb hamdden, mae 2022 yn gyfle i chi fentro ar daith newydd. Nid oes angen i chi aros tan fis Medi…gallwch ymuno â ni y mis Ionawr hwn, yr amser perffaith ar gyfer her newydd!

Cyfleoedd Newydd

Rydym yn teimlo’n gyffrous ein bod yn gallu cynnig cymaint o wahanol opsiynau cwrs y mis Ionawr hwn i’ch helpu i gyflawni eich amcanion. Gallech:

  • Ehangu eich sgiliau busnes gyda chyrsiau cadw cyfrifon, cyfrifeg, a rheoli pobl
  • Archwilio nyrsio milfeddygol, marchogaeth ceffylau, ac wyna
  • Dysgu am ddiogelwch bwyd, cwnsela, rhaglennu cyfrifiadur personol neu seiberddiogelwch
  • Datblygu sgiliau mewnosod electronig a chynnal a chadw cerbydau
  • Dod yn farbwr, therapydd harddwch neu’n hyfforddwr ffitrwydd
  • A chanfod hobïau fel crochenwaith, tecstilau, neu ffotograffiaeth.

Mae rhywbeth i bawb yn Coleg Gwent y mis Ionawr hwn, ac mae eindiwrnod hyblyg rhan amser, nosweithiau a chyrsiau rhan amser estynedig wedi’u gwneud i ffitio o amgylch eich ffordd o fyw brysur, fel y gallwch ffitio eich dysgu ynghyd â phopeth arall. Mae ein cyrsiau rhan amser estynedig wedi’u cyllido’n llawn hyd yn oed, sy’n golygu y gallwch gael cymhwyster llawn amser mewn 12-20 awr yr wythnos yn unig, yn rhad ac am ddim! Mae llawer o grantiau a chefnogaeth ariannol ar gael hefyd, a gallech hyd yn oed fod yn gymwys am tuag at eich astudiaethau.

Felly, beth am ystyried cwrs yn Coleg Gwent y mis Ionawr hwn? Gallai 2022 fod y flwyddyn i chi!

Dewch i glywed gan ein myfyrwyr

Part time learner, Lucinda GatrellRoedd Lucinda’n ddysgwr Adnoddau Dynol rhan amser a oedd wedi gweithio ym maes AD am ddeuddeng mlynedd heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol. Penderfynodd astudio’n swyddogol yn Coleg Gwent i gyflawni cymwysterau perthnasol ar gyfer ei gwaith:

Roedd Coleg Gwent yn gallu cynnig cwrs undydd wythnosol ac astudio fel hyn oedd orau gen i. Mwynheais bob agwedd o’r cwrs ac roedd pasio pob modiwl gyda sylwadau da yn llwyddiant sylweddol i mi. Fy mhrif gyngor yw canolbwyntio’n llawn yn y dosbarth, gwneud eich gorau bob amser, ond yn bwysicach fyth, mwynhewch!â€

Part time learner, Robin HammetDywedodd y myfyriwr Chwaraeon Robin fod ei gwrs yn Coleg Gwent wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran cyflawni gyrfa ei freuddwydion:

“Yn y tymor hir, rwyf eisiau bod yn hyfforddwr personol. Mae’r cymwysterau rwyf wedi eu hennill wedi agor llawer o ddrysau newydd ac wedi dod â phrofiadau cyffrous i mi. Roeddwn yn nerfus tu hwnt cyn cychwyn yn y coleg gan fy mod wedi gadael yr ysgol ers 27 mlynedd. Fodd bynnag, mae’r cwrs yn wych ac mor wahanol i’r ysgol. Mae pawb yn oedolyn sydd eisiau cyflawni rhywbeth. Mae’r tiwtoriaid wedi gwneud i mi gredu yn fy hun oherwydd roeddwn yn arfer bod yn eithaf swil.â€

Part time learner, Sarah Spargo MorganRoedd Sarah yn fam oedd yn aros gartref a dywedodd fod cydbwyso ei chwrs Ffotograffiaeth rhan amser gydag ymrwymiadau gofal plant wedi bod yn hawdd:

“Mae’r amseroedd yn gyfleus ar gyfer pobl sy’n gweithio neu sydd â phlant. Rwy’n edrych ymlaen at y cwrs nesaf ac yn gobeithio sefydlu fy musnes ffotograffiaeth fy hun yn y dyfodol.â€

Dilynwch ôl eu traed a gwnewch 2022 yn flwyddyn i chi – ymrestrwch nawr ac ymuno â chymuned Coleg Gwent y mis Ionawr hwn!