鶹ý

En
Newport Campus joins the City Car Cup Challenge

Campws Casnewydd yn ymuno â’r Her Cwpan City Car


10 Mai 2022

Yn agos iawn tu ôl i sawdl dysgwyr Peirianneg Chwaraeon Modurol Lefel 3 Parth Dysgu Blaenau Gwent, mae myfyrwyr a staff Cerbydau Modur Campws Dinas Casnewydd yn ymuno â’r am ychydig o gystadleuaeth rhyng-gampws gyfeillgar.

Tra bo Parth Dysgu Blaenau Gwent eisoes wedi adeiladu eu car ac wedi ei brofi ar y trac rasio, mae’r dysgwyr yng Nghampws Dinas Casnewydd ond megis cychwyn ar y daith gyda char rhodd gan .

Eglurodd George Jones, y tiwtor cwrs “Bydd y gweithgaredd hwn yn ymgysylltu dysgwyr drwy fisoedd yr haf er mwyn ysbrydoli cynnydd ymlaen at flwyddyn nesaf eu rhaglen cwrs. Byddant yn gweithio fel tîm i drawsnewid cerbyd ffordd safonol yn gar rasio gyda chymorth gan staff ac arbenigwyr ‘Yr Her Chwaraeon Moduro’. Cynhelir hyn fel gweithgaredd allgyrsiol yn ystod y tymor, gan gyfoethogi eu profiadau dysgu yn Coleg Gwent.”

Pan fydd y car yn barod i’w rasio, bydd cyfanswm o 7 ymweliad i wahanol gylchedau rasio o amgylch y DU drwy gydol misoedd yr haf, lle fydd cyfle i’r tîm o ddysgwyr brofi penwythnos llawn o chwaraeon modurol, wrth i’w car gystadlu yn erbyn colegau eraill yn y ‘Cwpan City Car’.

Newport Campus joins the City Car Cup Challenge

Bydd hon yn ymdrech ar y cyd rhwng Campws Dinas Casnewydd a Pharth Dysgu Blaenau Gwent, gan redeg dau gar a thîm ar wahân dan ymbarél Coleg Gwent. Yn ystod bob penwythnos ras, bydd y dysgwyr yn cymryd rhan yn y gwaith o baratoi’r car rasio ac yn defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau y datblygon nhw yn ystod eu hastudiaethau i ddatrys unrhyw broblemau mecanyddol neu drydanol a all godi gyda’r car. Byddant hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu ac arfer broffesiynol, gan wneud y profiad yn rhywbeth gwerthfawr y gallan nhw ei ychwanegu ar eu CV a rhoi profiad gwych iddyn nhw mewn amgylchedd gwaith realistig.

Roedd gan James Thomas, sy’n ddysgwr Peirianneg Fodurol Lefel 3, brofiad o weithio ar geir drwy Marshfield Motors, lle’r oedd yn cynnal a chadw a gwneud atgyweiriadau syml i foduron ysgafn. Ond roedd yn awyddus i fynd ymhellach a dychwelodd i Coleg Gwent i ennill ei gymhwyster. Aeth ati i egluro “Rwyf wedi bod â diddordeb brwd mewn peiriannau, ceir, rasio a chwaraeon modur erioed, felly pan ddaeth y cyfle, fe neidiais amdano. Mae’n agor drysau ar gyfer swyddi, profiadau a chyfleoedd posib, felly penderfynais fynd amdani a chynrychioli’r coleg. Os gallaf gael y cyfle i weithio gyda cheir mewn amgylchedd fel hwn, rwy’n ei weld fel cyfle i serennu a gall agor drysau i swyddi mewn naill ai tîm pit neu ryw fath o ddatblygiad chwaraeon modur.”

Byddwch barod am yrfa yn y diwydiant modurol

Fel coleg addysg bellach, rydym wedi bod ar reng flaen hyfforddiant y diwydiant modurol yn Ne-ddwyrain Cymru ers blynyddoedd. Gyda chyrsiau mewn peirianneg fodurol, cynnal a chadw, ffitio ac atgyweirio cerbydau, mae Campws Dinas Casnewydd yn hwb ar gyfer hyfforddi arbenigwyr modurol y dyfodol.

Yn ddiweddar gwnaed adnewyddiadau i gyfleusterau gweithdy’r campws er mwyn eu moderneiddio, gan adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf yn y sector modurol. Mae’r campws yn ymfalchïo yn ei adnoddau o safon diwydiant, offer o’r radd flaenaf, ac ardal weithio olau a glân, fel y gall dysgwyr sy’n cymryd rhan yng Nghwpan City Car ymgyfarwyddo eu hunain ynghylch sut beth fydd camu i’r byd gwaith.

Newport Campus joins the City Car Cup Challenge

Mae’r diwydiant modurol wedi esblygu yn y blynyddoedd diwethaf. Felly, er mwyn cadw ar flaen y cynnydd yn y sector, rydym wedi buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf megis cerbydau trydan, i’w defnyddio a’u profi gan ein dysgwyr yn y coleg, gan eu paratoi ar gyfer y gweithle.

Mae dysgwyr ar y cyrsiau modurol yng Nghampws Dinas Casnewydd yn profi amrywiaeth eang o beirianneg a mecanweithiau modurol, o weithio ar gerbydau trydan i weithio ar geir rasio fel rhan o’r Cwpan City Car. Mae’n brofiad gwych i’w ychwanegu at eu CVs a gwella eu cyfleoedd i ennill cyflogaeth ar ôl y coleg.

Dysgwch fwy am yrfa yn y diwydiant modurol a chwaraeon modur yn Coleg Gwent – gwnewch gais am un o’n cyrsiau heddiw a gwireddwch eich breuddwyd!