鶹ý

En
QAA

Cydnabod Coleg AB mwyaf Cymru am safonau academaidd uchel


20 Mawrth 2024

Cydnabyddwyd coleg addysg bellach mwyaf Cymru, Coleg Gwent, am ei safonau academaidd uchel yn dilyn adolygiad diweddar o’r diwydiant.

O dan arweiniad yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA), cafodd Coleg Gwent ganmoliaeth ar draws holl ofynion academaidd y DU heb nodi unrhyw feysydd i’w gwella neu ddatblygu.

Yn dilyn yr adolygiad ym mis Tachwedd 2023, mynegodd hyder llwyr fod ansawdd profiad academaidd y myfyrwyr yn ogystal â safonau academaidd y coleg yn bodloni gofynion rheoliadol y DU. 

Mae’r adolygiad, a gynhelir ar sail pedair blynedd safonol, yn cynnig asesiad arbenigol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar barodrwydd darparwyr i gynnal gweithrediadau o fewn y maes addysg uwch.

Mae Carolyn Watkins, sydd wedi’r hymrestru ar radd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod, wedi dychwelyd i Goleg Gwent yn ddiweddar ar ôl astudio Busnes a Chelf yn y coleg am y tro cyntaf yn ôl yn 1999. Gan fyfyrio ar ganfyddiadau adroddiad yr ASA, dywedodd: “Fel mam brysur i bedwar bachgen yn gweithio’n amser llawn, doeddwn i ddim wedi ystyried ymgymryd ag addysg bellach yn y dyfodol — ond mae Coleg Gwent wedi fy nghefnogi a’m galluogi i weithio tuag at ennill cymhwyster newydd.

Edrychais ar wahanol ddarparwyr, ond doedd yr un ohonyn nhw’n teimlo’n iawn i mi nes i mi fynychu digwyddiad agored yn y coleg a theimlo’n syth bod croeso a gwerth i mi. Rhoddodd hyn yr hyder i mi ymrestru a chychwyn ar fy nhaith academaidd addysg uwch.”

Ar ôl astudio ei chwrs presennol ers 2021, dywedodd Carolyn: “Ces i gyfle yn ddiweddar i ddod yn gynrychiolydd dosbarth ac yn llysgennad addysg uwch ar gyfer fy nghwrs, ac rwyf bellach yn rhan o dîm cynrychiolwyr myfyrwyr yr ASA. Mae’r staff yn y coleg wedi bod yn wych, gan gynnig cefnogaeth ac arweiniad digymar wrth i mi ymgymryd â’r cyfrifoldebau newydd hyn.”

Dywedodd Guy Lacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gwent: “Mae canlyniadau’r adolygiad QAA yn newyddion gwych i’r Coleg a’n tîm addysg uwch. Rydym ni’n falch o’r cyfleoedd addysgol rydym ni’n eu cynnig, â’r partneriaethau rydym wedi’u sefydlu i sicrhau y gallwn ddarparu graddau haen uchaf a chymwysterau addysg uwch eraill sy’n fforddiadwy ac yn hyblyg.

“Mae ein staff yn gweithio’n galed i sicrhau nad yw ein dysgwyr yn cael dim byd llai nag addysgu, arweiniad, a chymorth rhagorol sydd yn cyd-fynd â safonau diwydiant, ac yn cael eu grymuso i gyrraedd eu nodau — mae’n ardderchog gweld hyn yn cael ei gydnabod gan yr ASA.”

Mae gan Goleg Gwent bum prif gampws —wedi’u lleoli yng Nghasnewydd, Torfaen, Brynbuga, Crosskeys, a Glynebwy. Mae’r coleg yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau addysg uwch ar draws ystod eang o bynciau y gall dysgwyr eu hastudio’n llawn- neu’n rhan-amser.

Wrth roi cyngor i’r rheini sydd am gychwyn ar daith addysg uwch, rhannodd Carolyn: “Byddwn yn bendant yn argymell y coleg ar gyfer addysg uwch — mae’r cymorth a gewch yn ystod eich cwrs yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl.

“Rydych chi’n cael yr hyder sydd ei angen i gwblhau’r cwrs, ac mae yna wastad rywun i droi ato am gymorth a chefnogaeth – boed hynny’n academaidd neu’n bersonol.”

I ddarganfod mwy am y cyrsiau addysg uwch sydd ar gael yn Coleg Gwent, ewch i: www.coleggwent.ac.uk/ein-cyrsiau/addysg-uwch