16 Chwefror 2022
Enw: Holly Overfield
Cartref: Abertyleri
Cwrs: HNC mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol
Campws: Campws Crosskeys
Mae Holly, prentis mewn peirianneg electronig a thrydanol, wedi ei bwrw ei hun o ddifrif i fyd peirianneg, gan fanteisio i’r eithaf ar bob cyfle. Un profiad a llwyddiant y mae hi’n ymfalchïo ynddo yw dod yn ail yng nghystadleuaeth .
Mae cystadleuaeth Prentis Crefft y Flwyddyn Screwfix ar agor i bob crefft ac mae’n eich galluogi i ddangos eich sgiliau fel Prentis trwy nifer o wahanol gamau yn y gystadleuaeth. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael gweithio ochr yn ochr â’r cwmni, a bydd hynny yn helpu i hyrwyddo eich enw o fewn y sector. Hefyd, bydd yn rhoi cyfle ichi weithio ochr yn ochr â Screwfix i adolygu offer. Gallwch weddnewid eich holl yrfa trwy wneud cais, ac os dewch i’r brig, byddwch yn cael offer sy’n werth £10,000 er mwyn helpu i roi hwb i’ch gyrfa. Fel yr esbonia Holly:
“Fe fuaswn i’n argymell y gystadleuaeth i bawb. Gall Screwfix drawsnewid pethau’n llwyr, ac mae’n eich helpu i gael gwynt dan adain eich gyrfa. Mae wedi helpu llawer arna i yn fy swydd ac mae’n fy ngalluogi i greu cysylltiadau ar gyfer y dyfodol. Gall wneud gwahaniaeth enfawr i’ch CV, gan wneud ichi sefyll allan. Mae hi mor hawdd cymryd rhan yn y gystadleuaeth ac mae’r gwobrwyon yn anhygoel! Rydw i’n parhau i weithio ochr yn ochr â Screwfix i adolygu a phrofi cynhyrchion newydd, a bellach rydw i’n un o hyrwyddwyr y gystadleuaeth. Hoffwn annog myfyrwyr i fynd amdani eleni!”
Fe wnaeth Holly yn arbennig o dda i ddod yn ail yng nghystadleuaeth Prentis Crefft Screwfix 2021, a soniodd rywfaint mwy am ei phrofiad fel Prentis yn Coleg Gwent…
“Roeddwn i wastad wedi mwynhau dylunio a thechnoleg yn yr ysgol, a phan ddaeth hi’n adeg TGAU, dywedwyd wrtha i am ddewis pwnc mwy ‘academaidd’. Doedd merched ddim yn cael eu hannog i wneud gwaith ymarferol. Ond pam ddylwn i wrando ar y cyngor hwnnw os mai dyna’r union beth oeddwn i’n mwynhau ei wneud? Roeddwn i wrth fy modd gyda gwaith ymarferol ac fe wnes i ddewis dilyn TGAU mewn dylunio a thechnoleg.
Yna, cefais fy mhrentisiaeth yn union cyn imi adael yr ysgol, ac fe es i ymlaen i ddilyn Rhaglen Beirianneg Uwch Lefel 3 cyn mynd i’r afael â HNC. Roeddwn i eisiau camu ymlaen yn fy addysg, er mwyn imi allu mynd ymhellach yn fy ngyrfa. Rydw i eisiau i fwy o ferched gael eu hannog i fentro i’r diwydiant ac i ddilyn prentisiaeth, yn hytrach nag ofni gwneud hynny. Fel merched, fe allwn ni wneud unrhyw beth y dymunwn ei wneud. Cyn belled â’ch bod chi’n fodlon gweithio’n galed, fe allwch chi gyflawni unrhyw beth. Cofiwch aros yn gryf, byddwch yn falch ohonoch chi eich hun a pheidiwch â cholli golwg ar eich nod!”
“Mae’r tiwtoriaid mor danbaid ynglŷn â’r cwrs. Dros gyfnod o bedair blynedd, rydw i wedi cael sawl sesiwn ymarferol ac mae’r gefnogaeth yn eithriadol. Mae’n wych fy mod yn gallu camu ymlaen yn y coleg heb orfod mynd i’r brifysgol, a gallaf aros yn yr un cyfleuster a chreu clymau cryf gyda ’nhiwtoriaid. Fuaswn i ddim yn argymell unrhyw ffordd arall. Roedd dilyn y brentisiaeth yn brofiad anhygoel. Rydych chi’n ennill arian ac yn dysgu ar yr un pryd – mae’n waith caled, ond yn hollol werth chweil yn y pen draw!
Trwy ddilyn prentisiaeth yn Coleg Gwent, gallwch fynd trwy’r cwrs fesul blwyddyn a dod i adnabod eich tiwtoriaid, ac maen nhw’n eich annog i fynd ymhellach gyda’ch gwaith. Rydw i hyd yn oed wedi gallu dilyn NVQ fel cymhwyster ychwanegol – ac mae hwnnw’n gymhwyster anhygoel yn y byd diwydiant!
“Fel rhan o ’mhrentisiaeth, rydw i’n mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos ac yn gweithio sifftiau am 40 awr yr wythnos – mae’r sifftiau’n newid rhwng sifftiau dydd, nos a phrynhawn. Mae hi’n anodd cydbwyso pethau, ond mae’n werth y drafferth. Rhaid ichi weithio’n galed i gyrraedd eich nod, ond mae addysg a phrentisiaeth yn adeiladu eich gyrfa ac yn meithrin eich hyder fel unigolyn o fewn eich proffesiwn.
Rydw i nawr ar fin gorffen fy HNC. Fy mwriad yw dilyn HND wedyn. Rydw i eisiau camu ymlaen yn fy ngyrfa a chyrraedd lefel reoli neu oruchwylio, a pharhau i feithrin fy ngwybodaeth a ’mhrofiad.”
Mae cystadleuaeth Prentis Crefft Screwfix 2022 yn cael ei chynnal eto eleni a daw’r . Beth am ddilyn yn ôl troed Holly a llwyddo fel prentis crefft gyda phrentisiaeth yn Coleg Gwent.