11 Hydref 2019
Rydym yn gweithio gyda i lansio menter newydd yn cynnig cyfle i bobl ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i roi cynnig newydd ar eu gyrfa. Mae cyrsiau sydd wedi’u dylunio i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau yng Nghymru yn sectorau megis peirianneg, adeiladu a TGCh ar gael i bobl sy’n chwilio am yrfa newydd. Mae Coleg Gwent yn ne ddwyrain Cymru wedi’i ddewis, ynghyd â Grŵp Llandrillo Menai yng ngogledd Cymru, i gynnal y cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol hyn fel rhan o gynllun peilot dwy flynedd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynllun ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru dros 19 oed sydd mewn gwaith, ond sy’n ennill llai na £26k y flwyddyn. Mae’r peilot Cyfrif Dysgu Personol yn cynnig y cyfle i bobl gyflogedig gael mynediad at gyrsiau hyblyg ac am ddim yn y sectorau peirianneg, adeiladu a TGCh i ennill y sgiliau a chymwysterau perthnasol sydd eu hangen arnynt i ddechrau gyrfa newydd.
Disgwylir Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lansio menter newydd yn cynnig cyfle i bobl ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i roi cynnig newydd ar eu gyrfa. Mae cyrsiau sydd wedi’u dylunio i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau yng Nghymru yn sectorau megis peirianneg, adeiladu a TGCh ar gael i bobl sy’n chwilio am yrfa Newydd. Mae Coleg Gwent yn ne ddwyrain Cymru wedi’i ddewis, ynghyd â Grŵp Llandrillo Menai yng ngogledd Cymru, i gynnal y cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol hyn fel rhan o gynllun peilot dwy flynedd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynllun ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru dros 19 oed sydd mewn gwaith, ond sy’n ennill llai na £26k y flwyddyn. Mae’r peilot Cyfrif Dysgu Personol yn cynnig y cyfle i bobl gyflogedig gael mynediad at gyrsiau hyblyg ac am ddim yn y sectorau peirianneg, adeiladu a TGCh i ennill y sgiliau a chymwysterau perthnasol sydd eu hangen arnynt i ddechrau gyrfa newydd. Disgwylir i’r prosiect gefnogi oddeutu 1,000 o gyfranogwyr dros gyfnod y peilot. Dywedodd Kirsty Williams, Gweinidog Addysg: “Mae cyflogwyr yn y sectorau peirianneg, adeiladu a TGCh yn profi cyfnod o brinder sgiliau cynyddol ac yn awyddus i recriwtio unigolion sydd â’r sgiliau a’r cymwysterau galwedigaethol perthnasol sydd eu hangen arnynt i lenwi bylchau’r presennol a’r dyfodol. Bydd y prosiect newydd hwn yn eu helpu i wneud hynny. “Bydd rhaglen beilot yn cael ei chynnal am ddwy flynedd a phan fydd yn cael ei chwblhau, caiff ei hadolygu gyda’r bwriad o fwy o gyrsiau yn mynd ar gael dros amrywiaeth ehangach o sectorau, gan agor rhagor o gyfleoedd i bobl gael newid cyfeiriad yn eu gyrfa.”
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Yn yr hinsawdd economaidd yr ydym yn ei hwynebu, mae’r hawl i ddysg gydol oes yn bwysicach nag erioed ac mae’r fenter hon wedi’i dylunio i helpu pobl yng Nghymru i uwchsgilio a goresgyn rhwystrau a all fod yn eu dal nhw’n ôl rhag gwireddu eu gwir botensial. “Bydd ein Cyfrifon Dysgu Personol yn rhoi’r cyfle i unigolion ennill y sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau sydd eu hangen arnynt i ddechrau ar yrfa newydd, a gwneud hynny mewn modd sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw. “Bydd Cyfrifon Dysgu Personol hefyd o fudd i’n heconomi, gan helpu i sicrhau y gall cyflogwyr recriwtio pobl sydd â’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i alluogi eu busnes i ffynnu ac ehangu.” Os ydych yn chwilio am yrfa newydd, yna cymerwch olwg ar y cyrsiau sydd ar gael ac ymgeisiwch nawr!