Â鶹´«Ã½

En
Libby-Mae Ford and her book

Eich cefnogi i gyrraedd eich potensial


29 Ionawr 2023

Mae cychwyn yn y coleg yn gam mawr sy’n cynnwys addasu i nifer o bethau newydd. Rydym bob amser yn blaenoriaethu ein myfyrwyr yma yn Coleg Gwent, ac yn gofalu am eich llesiant yn ogystal â darparu’r holl gymorth sydd ei angen arnoch i ffynnu yn y coleg. O gymorth academaidd i lesiant personol, rydym yma i chi bob amser!

Dyma Libby-Mae Ford, cyn-fyfyriwr, yn sgwrsio â ni am ei phrofiad o astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Seicoleg, y Cyfryngau, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ar ein campws Crosskeys. Roedd ganddi uchelgais o ddod yn Seicolegydd Clinigol ac Awdur, ac roedd cyrsiau Safon Uwch Libby yn adlewyrchu ei diddordebau, ac nid yw’n syndod ei bod hi wedi mynd ymlaen i olygu ac ysgrifennu llyfr llwyddiannus am iechyd meddwl o’r enw .

Stori Libby

Ar ôl brwydro â phroblemau iechyd meddwl o oedran ifanc, datblygodd Libby ddiddordeb mewn helpu eraill a oedd yn brwydro hefyd. Felly, penderfynodd astudio Seicoleg i ddysgu mwy am sut mae’r ymennydd a meddwl yn gweithio, ynghyd â’r Cyfryngau i archwilio sut mae iechyd meddwl yn cael ei bortreadu, ac Iaith a Llenyddiaeth Saesneg i gynnau ei chariad at ysgrifennu. Mae ei hastudiaethau wedi ei helpu i feithrin hyder a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i astudio Seicoleg yn y brifysgol, yn ogystal ag ysgrifennu ei llyfr ei hun.

Er hyn, roedd cyfnod Libby yn y coleg yn anesmwyth, wrth i’w hiechyd meddwl ddechrau dirywio, ac yn ystod ei hastudiaethau, cafodd ei chofrestru ar gwrs Therapi Ymddygiad Dialectig dwys gan ei thîm iechyd meddwl cymunedol. Cafodd hyn effaith enfawr ar ei bywyd yn y coleg.

Mae Libby yn cofio ein tiwtoriaid yn ei chefnogi ac yn amyneddgar wrth iddi golli gwersi er mwyn mynychu sesiynau therapi, a’u bod nhw wedi ei helpu i ddal fyny efo’r gwaith a fethodd fel nad oedd hi ar ei hôl hi. Mae tîm cyfan o bobl ar gael i’ch cefnogi chi yn Coleg Gwent, ac ynghyd â’r cymorth academaidd a bugeiliol gan ein tiwtoriaid, derbyniodd Libby gwnsela ar ein campws Crosskeys. Dywedodd ei fod wedi bod yn hynod fanteisiol o ran ei helpu i ymdopi â’i phroblemau iechyd meddwl a’i hastudiaethau.

Bu i’r gefnogaeth ragorol yn Coleg Gwent helpu Libby drwy ei thaith addysgiadol, ac er gwaethaf ei heriau, gadawodd y coleg gyda graddau BBC yn ei chyrsiau Safon Uwch.

Geiriau Doeth gan Libby

Wrth fyfyrio ar ei chyfnod a’i heriau yn Coleg Gwent, dywedodd:

“Y cyngor mwyaf allaf ei gynnig i unrhyw un yw siarad â rhywun. Peidiwch â brwydro ar eich pen eich hun! Mae iechyd meddwl yn faich enfawr i’w ysgwyddo ar eich pen eich hun, a gall ei rannu â ffrind, aelod o’r teulu, athro neu oedolyn rydych yn ymddiried ynddo helpu i leddfu’r baich hwnnw.

Darn arall o gyngor fyddai gwneud amser i chi eich hun. Mae pob un ohonom angen amser i ymlacio. Felly mae’n gwbl dderbyniol treulio diwrnod yn canolbwyntio ar eich iechyd meddwl os oes angen. Mae’n dderbyniol lleihau eich sesiynau astudio os nad ydych yn teimlo’n dda. Mae’n dderbyniol gofyn am gael mynd i’r toiled os yw pethau yn eich llethu a’ch bod chi angen munud i chi eich hun. Mae addysg yn bwysig ac mae cael y cyfle i ddysgu yn anrhydedd, ond peidiwch â gorweithio eich hun. Gofalwch amdanoch chi eich hun yn gyntaf, oherwydd dim ond un ohonoch chi sy’n bod.”

Through the Hourglass

Ers gadael y coleg, mae Libby wedi dod yn bell. Gyda diolch i’r gefnogaeth a’r cymorth a dderbyniodd hi, mae hi bellach wedi cyrraedd pwynt ar ei thaith adfer lle mae hi’n gallu tynnu ar ei phrofiadau i greu gweithiau llenyddol a all helpu ac ysbrydoli eraill sy’n brwydro â’u hiechyd meddwl.

Ar ôl dod o hyd i gyd-lenorion gyda straeon i’w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, cafodd –  – ei greu. Mae’r llyfr yn edrych ar fywyd 20 person sydd â straeon gwahanol i’w hadrodd, mae Libby yn gobeithio y bydd ei llyfr newydd yn dod â chysur i’r rheiny sy’n brwydro, wrth addysgu, codi ymwybyddiaeth a chael gwared ar y stigma o amgylch iechyd meddwl. Drwy rannu’r profiadau hyn, a rhoi llais i’r rheiny sydd heb gael eu clywed, o bosib, Through the Hourglass yw’r llyfr y byddai Libby wedi dymuno ei ddarllen i roi gobaith iddi yn ystod ei chyfnodau mwyaf dyrys.

Mae Through the Hourglass yn cael ei gyhoeddi gan Unbound drwy ymgyrch cyllido torfol. Dysgwch fwy .

Yn Coleg Gwent, rydym yn creu bod pawb yn gallu rhagori, ac mae Libby wedi gwneud hynny gyda ni. Mae eich llesiant yn flaenoriaeth i ni, ac rydym yn cynnig ystod o wasanaethau cefnogi i’ch helpu chi pan rydych ein hangen ni.

Gallwch ddysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael ar eich campws drwy ein gwefan neu ar y deilsen gymorth ar CG Connect.