5 Mawrth 2021
Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn bwysig i ni yn Coleg Gwent, ac rydym yn falch o’n hunaniaeth a’n gwreiddiau Cymraeg. Felly, yr wythnos hon, rydym yn dathlu Wythnos yr Iaith Gymraeg, ac rydym yn annog yr holl ddysgwr a’r staff – pa un ai eu bod yn siarad Cymraeg neu beidio – i fanteisio ar y cyfle hwn i ddeall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg heddiw yn well.
Oherwydd hanes cyfoethog yr iaith Gymraeg, mae gallu siarad yr iaith yn beth gwerthfawr heddiw, ac yn y dyfodol hefyd. Mae nifer o gyflogwyr yng Nghymru yn gofyn am y gallu i siarad Cymraeg, ac mae mwy a mwy o swyddi yn gofyn am wybodaeth am yr iaith Gymraeg a’r gallu i’w siarad. Yn Coleg Gwent rydym yn cydnabod hyn, felly rydym yn cynorthwyo ein dysgwyr a staff i ddysgu Cymraeg neu astudio ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fagu, neu wella eu sgiliau a chyflogadwyedd.
Mae hyrwyddo rhwydwaith cymorth cadarnhaol yn y Gymraeg a arweinir gan ddysgwyr yn bwysig i ni yma yn Coleg Gwent. Oherwydd hyn, rydym yn gwneud pob ymdrech i ymgorffori’r iaith yn rhaglenni ein dysgwyr drwy sicrhau ein bod ni’n cynnig darpariaeth academaidd ac allgyrsiol drwy gyfrwng yGymraeg. Er mwyn darparu hyn, rydym yn gweithredu cynllun Bydi Cymraeg ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n galluogi dysgwyr i hyrwyddo, annog a hwyluso cyfleodd drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y coleg. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau Cymraeg i oedolion ar y cyd â rhaglen Dysgu Cymraeg Gwent.
Mae Kate Atwell, Bydi Cymraeg o Gasnewydd, yn astudio Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg a Seicoleg ym Mharth Dysgu Torfaen. Mae Kate a’i chwaer yn siaradwyr Cymraeg rhugl, yn aml yn defnyddio’r iaith i gyfathrebu adref a gyda ffrindiau. Gofynnom ni i Kate am ei barn am yr iaith Gymraeg:
Beth mae bod yn Llysgennad Cymraeg yn ei olygu i chi?Â
“Rwy’n teimlo’n ddiolchgar iawn i gael y cyfle i fod yn fydi Cymraeg. Rwyf wedi cael cyfle i siarad gyda nifer o sêr Cymraeg enwog, fel Ifan Pritchard o Gwilym, a’r dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol, Mikey Denman. Mae bod yn fydi Cymraeg wedi fy ngalluogi i gyfarfod pobl newydd a chydweithio gyda’r rheiny yr wyf yn rhannu diddordebau tebyg â nhw. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i mi ymarfer fy Nghymraeg, oherwydd nid wyf yn cael cymaint o gyfle ag yr hoffwn i ddefnyddio’r iaith adref. Rwy’n gwerthfawrogi’r rôl hon yn fawr a gyda phob tasg rwy’n ei chwblhau rwy’n cael ymdeimlad o gyflawniad, a gwerthfawrogiad gan fy nghyfoedion.â€
Pam eich bod eisiau chwarae rhan wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y coleg?Â
“Rwy’n falch iawn fy mod yn medru hyrwyddo ac annog defnydd y Gymraeg o amgylch y coleg. Gan fy mod wedi cael addysg Gymraeg drwy gydol fy mywyd, rwy’n ymwybodol sut gall bod yn ddwyieithog wella eich cyfleoedd. Roeddwn i eisiau rhannu ychydig o’r buddion hyn gyda myfyrwyr eraill. Roeddwn i hefyd eisiau dangos i eraill nad oes rhaid i ddysgu Cymraeg fod yn anodd neu’n annymunol. Ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, es ati i greu rhestr chwarae’n llawn o ganeuon Cymraeg, ac anogais fyfyrwyr a staff i ddathlu’r achlysur. Roeddwn yn gobeithio, wrth wneud hyn, y byddai mwy o bobl yn cael eu hannog i wrando ar gyfryngau Cymraeg, ac mae hyn yn ffordd hwyliog o ddysgu’r iaith.â€
Lle fyddech chi’n hoffi gweld yr iaith Gymraeg yn mynd yn y dyfodol?Â
“Rwy’n gobeithio gweld mwy o bobl yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn y dyfodol, p’un a yw hynny yn y gweithle neu mewn lleoliadau cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Rwy’n credu bod hwn yn syniad gwych, ond dylid gwneud mwy i annog defnydd o’r iaith. Yn fy marn i, dylid rhoi mwy o gyllid i wella addysg Gymraeg, gan y bydd hyn yn caniatáu i’r iaith gyrraedd cenedlaethau iau. Rwyf hefyd yn credu waeth pa mor dda neu ddrwg ydych chi’n meddwl yw eich Cymraeg, dylai pawb deimlo’n falch eu bod yn deall yr iaith. Hyd yn oed os nad ydych yn rhugl, dylech wthio eich hun i gymryd rhan mewn sgwrs Gymraeg. Yn fy marn i, mae cyfathrebu drwy’r Gymraeg yn bwysicach na cheisio cael y treigliadau’n gywir!â€
Felly, os ydych chithau hefyd yn frwdfrydig dros yr iaith Gymraeg, helpwch ni i hyrwyddo’r iaith drwy ddod yn Llysgennad Cymraeg yn Coleg Gwent fis Medi – i wneud hyn, cysylltwch â ni. Neu, os ydych yn awyddus i ddysgu Cymraeg neu wella eich sgiliau presennol dysgwch fwy am ddysgu’r iaith ac astudio yn Gymraeg, neu’n ddwyieithog yma.