鶹ý

En
Coleg Gwent tutor crowned world champion trainer

Tiwtor Coleg Gwent yn cael ei goroni fel hyfforddwr gorau’r byd


2 Tachwedd 2022

Rydym ni’n falch o fod yn goleg sy’n llawn o ddoniau ac amrywiaeth, nid ymhlith ein myfyrwyr yn unig, ond ein staff hefyd. Felly, nid yw’n syndod fod tiwtor Coleg Gwent, Richard Wheeler, wedi’i enwi’n hyfforddwr gorau’r byd yng nghystadlaethau 2022 yn ddiweddar, am y trydydd tro yn olynol!

Mae tiwtoriaid yn Coleg Gwent yn arbenigwyr yn eu meysydd addysgu. Gan rannu eu cyfoeth o brofiad yn y diwydiant, maen nhw’n cyfoethogi dysgu’r myfyrwyr ac yn ysbrydoli eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’r Tiwtor Atgyweirio Corff Cerbydau ac Ail-orffen, Rich Wheeler, yn gwneud hyn drwy ei angerdd am hyfforddi sgiliau a chystadlaethau.

Ein llysgennad sgiliau

Ochr yn ochr â’i rôl fel darlithydd, mae Rich hefyd yn llysgennad sgiliau yn Coleg Gwent. Gydag angerdd am hyfforddi sgiliau, mae’n cefnogi tiwtoriaid eraill yn y coleg i ymgorffori cystadlaethau sgiliau i’r cwricwlwm ym mhob maes pwnc. Mae hyn yn helpu i godi safon hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru.

Fel Enillydd y Sector Peirianneg yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru; Rheolwr Tîm WorldSkills y DU; a Rheolwr Hyfforddi Paentio Car WorldSkills y DU; mae Richard yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi dysgwyr ar eu taith gystadleuol ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Yn dilyn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills y DU yn gynharach eleni, mae Rich wedi bod yn hyfforddi criw o gystadleuwyr o bob cwr o’r wlad i gynrychioli Tîm y DU yn y cystadlaethau rhywngwladol a chyflawni llwyddiant yn WorldSkills – Oscars byd hyfforddiant galwedigaethol.

Coleg Gwent tutor crowned world champion trainer

Llwyddiant rhyngwladol

Eleni, fe wnaeth Rich gefnogi’r dysgwr, Craig Kennedy, wrth iddo gynrychioli’r DU yn WorldSkills 2022. Yn unol ag arfer gorau, fe wnaeth hyfforddi, arwain a chynghori Craig i fireinio ei sgiliau cyn y gystadleuaeth. Yna ymunodd â Craig yn Silkeborg, Denmarc, wrth iddo gystadlu yn rowndiau terfynol Paentio Car Rhifyn Arbennig. Gydag arbenigedd a chefnogaeth Richard, daeth Craig yn drydydd yn y byd a chael medal efydd yn y gystadleuaeth sgiliau ryngwladol.

Mae Rich yn mwynhau gweithio gydag unigolion mor dalentog a brwdfrydig a’u gwylio nhw’n ffynnu dros amser. Dywedodd: “Mae’n fraint cael hyfforddi cymaint o dalent yn fy niwydiant. Mae Craig wedi rhoi cymaint o falchder i mi eleni ac fe wnaeth frwydro’n galed i ennill medal efydd haeddiannol iawn.”

Gyda hanes o lwyddiant, dyma’r drydedd gystadleuaeth WorldSkills ryngwladol yn olynol lle mae Richard wedi hyfforddi cystadleuwyr o’r DU i lwyddiant ar y podiwm. Mae buddugoliaethau hyfforddi rhyngwladol Richard nawr yn cynnwys Abu Dhabi yn 2017, Kazan yn 2019, a nawr Denmarc yn 2022.

Coleg Gwent tutor crowned world champion trainer

Hyfforddiant galwedigaethol yn Coleg Gwent

O’r sgiliau maen nhw’n eu datblygu i’r profiad maen nhw’n ei feithrin, mae cymaint o fanteision i ddysgwyr sy’n cymryd rhan yn y cystadlaethau sgiliau a’r cyrsiau galwedigaethol hyn yn Coleg Gwent. Rydym ni’n falch o gael tiwtoriaid fel Rich Wheeler, sy’n rhannu eu harbenigedd maes pwnc gyda myfyrwyr ac yn arddangos angerdd amlwg tuag at hyfforddiant galwedigaethol yn ein coleg.

Mae ymroddiad ein tiwtoriaid arbenigol yn helpu ein dysgwyr i fod y gorau y gallan nhw fod, arddangos eu sgiliau ar lwyfan rhyngwladol, a serennu yn eu gyrfaoedd i’r dyfodol!

Gallwch ddysgu mwy am ein hamrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol a chyfarfod ein tiwtoriaid arbenigol yn ein digwyddiad agored nesaf.