Â鶹´«Ã½

En

Arlwyo a Lletygarwch

Mae’n un o’r diwydiannau mwyaf yn y wlad, sy’n cynnwys bwytai, gwestai, caffis, bariau a llawer mwy – felly gall un o’n cyrsiau arlwyo a lletygarwch agor y drws at lond gwlad o gyfleoedd.

Arlwyo

The Chefs' Forum AcademyDwli ar goginio? Mwynhau arbrofi gyda blasau? Hoff o weithio gyda phobl? Gallai arlwyo fod yr yrfa berffaith i chi!

Mae ein coleg arlwyo yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau arlwyo llawn amser a chyrsiau coginio proffesiynol i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu fel cogydd. Fel rhan o Academi Fforwm y Cogyddion, byddwch yn profi dosbarthiadau meistr gyda’r cogyddion gorau ac yn ennill profiad yn ein ceginau hyfforddi o safon diwydiant fel eich bod un cam o flaen y gystadleuaeth.

Paratowch eich hun ar gyfer gweithio yn y diwydiant cyflym hwn yn Morels, ein bwyty sydd â sgôr o 5 seren ar TripAdvisor. Dyfarnwyd Tystysgrif Rhagoriaeth TripAdvisor i Morels ac mae’n parhau i ddarparu bwyd o ansawdd uchel a safonau uchel o wasanaeth i gleientiaid go iawn, gan roi’r profiad sydd ei angen arnoch ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes arlwyo. Gyda’n cyrsiau arlwyo, gallech chi gael sleisen o’r gweithgarwch hefyd!

Felly, p’un a ydych am weithio mewn bwyty lleol, datblygu bwydlenni ar gyfer cadwyni ar draws y wlad neu baratoi bwyd wrth deithio’r byd ar fordaith foethus, byddwch yn dysgu’r holl sgiliau a’r safonau uchel sydd eu hangen arnoch ar gwrs arlwyo yng Ngholeg Gwent.

Lletygarwch

O maître d’ i reolwr digwyddiadau, byddwch yn dod o hyd i ystod ddiddiwedd o gyfleoedd yn y diwydiant cyffrous lletygarwch – mae’n amgylchedd gwaith deniadol, cymdeithasol a boddhaus, a Choleg Gwent yw’r lle perffaith i ddechrau.

Bydd ein cyrsiau lletygarwch llawn amser yn eich paratoi ar gyfer llwyddiant ym myd cwsmer-yn-gyntaf lletygarwch, felly gallech fynd ymlaen i fod yn rheolwr bwyty, Maître d’, cynllunydd priodas a digwyddiadau, neu rôl mewn rheoli lletygarwch neu’r diwydiant hamdden. Gan weithio yn ein ceginau hyfforddi a’n bwyty llawn offer, byddwch yn cael hyfforddiant i safonau’r diwydiant gan baratoi prydau o fwyd a gweini’r cyhoedd yn ddyddiol. Does dim ffordd well o ennill y profiad sydd ei angen arnoch i fod yn llwyddiannus yn y sector lletygarwch!

Cyrsiau arbenigol

Eisoes wedi cychwyn ar eich gyrfa neu’n gwybod beth yr hoffech arbenigo ynddo? Mae ein cyrsiau rhan-amser yn rhoi sylw i feysydd megis crefft siwgr, coginio proffesiynol ac addurno teisennau, yn ogystal â phynciau perthnasol i’r diwydiant, megis Iechyd a Diogelwch a Hylendid Bwyd.

Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

5 cwrs ar gael

Byddwn yn argymell Coleg Gwent oherwydd y profiad o ddiwydiant a gewch yma. Mae gan y coleg fwyty proffesiynol sy’n agored i’r cyhoedd, sydd yn gyfle i ddysgu sut i gynyddu eich cyflymder, y gallu i goginio mewn cegin weithredol tra’n dysgu sut i weithio fel tîm. Mae’r coleg yn gwahodd cogyddion o lefel uchel i’n haddysgu ac i helpu gyda’n haseiniadau felly mae Fforwm y Cogyddion yn wych hefyd.

Clark Parry
Coginio Proffesiynol

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr