Addysgu'r genhedlaeth nesaf o dalent ddigidol
A ydych chi eisiau dilyn gyrfa o fewn y diwydiant digidol?
Gallwch ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol sy’n gyfwerth â thri phwnc Safon Uwch mewn partneriaeth â chyflogwyr blaenllaw’r diwydiant.
Rydym yn rhan o , menter newydd sbon Llywodraeth Cymru sy’n rhoi’r cyfle ichi ddechrau cwrs arloesol o astudio digidol.
Maniffesto CyberFirst (Saesneg yn unig)
GWELD Y CWRS BTEC CYFRIFIADURA COLEG SEIBER
Bydd y Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cyfrifiadura yn cynnwys cannoedd o oriau o fewnbwn diwydiant ynghyd â chwricwlwm ffres wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â Cyber College Cymru.
Byddwch yn elwa o weithio gyda’n partneriaid diwydiant, Admiral, Fujitsu a Thales drwy fentora, darlithwyr gwadd, lleoliadau gwaith a gweithdai.
Mae Coleg Gwent hefyd wedi cael cydnabyddiath fel coleg Aur Cyberfirst!
Mae’r cwrs Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cyfrifiadura yn berffaith ar gyfer ymgeiswyr sydd:
- Eisiau cwrs astudio sy’n cyfuno gwybodaeth cyfrifiadura a sgiliau ymarferol
- Yn frwd ynghylch gofynion technolegol newidiol y diwydiant
- Wedi eu hysgogi gan anghenion diwydiant a chyflogwr er mwyn bod yn barod am y gweithle
- Eisiau cyfuno gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth fusnes
- Yn dymuno dilyn gyrfa neu astudiaethau pellach yn y byd Seiber neu ddiwydiannau digidol eraill
Ymgeisiwch nawr i astudio ar y cwrs Diploma Cenedlaethol BTEC NEWYDD a Chyffrous hwn mewn Cyfrifiadura:
BTEC Cyfrifiadura Coleg Seiber Lefel 3
Parth Dysgu Blaenau Gwent
|
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Digwyddiad Rhithwir Coleg Seiber Cymru
Rydym yn gobeithio bod ein tiwtoriaid â’n cyflogwyr, Admiral, Fujitsu a Thales wedi eich ysbrydoli chi ac wedi ateb pob un o’ch cwestiynau yn ein sesiwn Holi ac Ateb fyw (Saesneg yn unig).
Os oes gennych chi fwy o gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â’n tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar.