Â鶹´«Ã½

En

Sut i wneud cais - Rhan Amser

Application process icons

Sut i wneud cais am gwrs rhan amser

Ar ôl dod o hyd i gwrs mae gennych ddiddordeb ynddo, mae gwneud cais yn hawdd – cliciwch ar y ddolen gwneud cais nawr ar waelod tudalen y cwrs o’ch dewis i roi cychwyn arni.  Rhennir y cais yn bum cam hawdd, ac mae’n cymryd ychydig o funudau i’w gwblhau.

Os hoffech fwy o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ein Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar ar 01495 333777 neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk.

Derbyn cynnig

Os oes gan eich cwrs ofynion mynediad penodol, byddwn yn asesu eich cais yn seiliedig ar y cwestiwn a ydych yn bodloni’r meini prawf, ac yn cynnig lle amodol i chi yn y coleg.

Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir ar eich cais, gan y byddwn yn anfon diweddariadau rheolaidd i’r cyfeiriad y byddwch yn ei nodi.

Cofrestru ar eich cwrs

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd angen i chi ddod i’r coleg i gofrestru’n agosach at eich dyddiad cychwyn.

Bydd angen i chi ddod â:

  • Manylion personol (yn cynnwys cyfeiriad post llawn)
  • Ffordd o dalu (cerdyn debyd/credyd, manylion banc) ar gyfer unrhyw ffioedd dysgu sy’n ddyledus (a ffioedd cofrestru ac arholiad os ydych yn gwneud cais ar y diwrnod)
  • ID Llun (trwydded yrru/pasbort)
  • Rhif Yswiriant Gwladol (gweler ar slipiau cyflog, cerdyn Yswiriant Gwladol)

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau