Â鶹´«Ã½

En

Diogelu

Mae’r coleg yn cydnabod bod gan ddysgwyr hawl sylfaenol i gael eu diogelu rhag niwed ac y dylent gael y cyfle i sicrhau’r budd mwyaf posibl o gyfleoedd hyfforddi ac addysg o safon uchel.

Rydym yn cydnabod ein dyletswyddau a chyfrifoldebau i ddiogelu a hyrwyddo lles dysgwyr. Mae gennym ddyletswydd foesol a statudol i weithredu swyddogaethau’r Coleg wrth ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion sy’n agored i niwed sy’n derbyn addysg a hyfforddiant gyda ni.

Rydym yn ymrwymo i weithio gyda sefydliadau perthnasol i gymryd pob cam rhesymol ymarferol i sicrhau bod y cyfrifoldebau bugeiliol a chyfreithiol sy’n ddyledus i ddysgwyr, o ran diogelu plant ac oedolion bregus, yn cael eu cyflawni yn unol â deddfwriaeth bresennol, canllaw proffesiynol priodol ac ymarfer gorau.

Mae’r Coleg hefyd yn rhannu amcanion gydag awdurdodau lleol, heddlu a rhanddeiliaid yn y gwasanaeth addysg i helpu cadw plant ac oedolion bregus yn ddiogel drwy gyfrannu at greu amgylchedd dysgu diogel; cydnabod pan fo pryderon ynghylch llesiant plant ac oedolion bregus yn codi a gweithredu i gyfeirio atynt gydag asiantaethau eraill.

Darllenwch ein Polisi Diogelu