Hanes
Dechreuodd Academi Rygbi Iau’r Dreigiau yn ffurfiol yn 2010 pan ffurfiwyd y bartneriaeth gyda Chlwb Rygbi’ Dreigiau. Mae Academi Rygbi Iau’r Dreigiau yn gweithio mewn partneriaeth â’r Dreigiau i ganiatáu i chwaraewyr gyfuno eu hastudiaethau academaidd â’u datblygiad chwarae rygbi. Mae’r Academi wedi denu chwaraewyr o bob rhan o Went i uwchsgilio wrth agor y cyfle i gyrchu’r byd rygbi proffesiynol.
Pwrpas
Mae Academi Rygbi’r Dreigiau yn caniatáu i egin chwaraewyr proffesiynol ddatblygu’r sgiliau corfforol, technegol, tactegol a seicolegol cywir i ddod yn chwaraewr proffesiynol yn y dyfodol.
Mae sesiynau hyfforddi’r Academi yn cynnwys datblygu sgiliau, cryfder a chyflyru, paratoi tîm, dadansoddi (unigol a thîm), hyfforddiant un i un a sesiynau datblygu oddi ar y cae. Mae myfyrwyr yn elwa o 16 awr yr wythnos o hyfforddiant pwrpasol gan hyfforddwyr y Dreigiau, fel rhan o raglen ddatblygu ddwy flynedd ochr yn ochr â’u hastudiaethau.
Mae’r Academi yn agored i bob chwaraewr ac yn rhedeg dau dîm, mae’r XV 1af yn cystadlu yng Nghynghrair Colegau ac Ysgolion Cymru URC lle mae gemau wythnosol yn cael eu ffrydio’n fyw gydag uchafbwyntiau’r gemau ar Rygbi Pawb ar S4C. Mae gemau’r 2il XV yn adlewyrchu’r XV 1af yn y tymor cyntaf yn ogystal â chwarae yn eu cynghrair eu hunain ar ôl y Nadolig.
Llwyddiannau
Mae ein Hacademi Rygbi yn llwyddiannus, gan ennill cynghrair Colegau ac Ysgolion Cymru URC ar 2 achlysur, 2013 a 2020. Mae’r academi wedi cynhyrchu 52 o gemau rhyngwladol gradd oedran a thair gêm ryngwladol lawn yn Tyler Morgan (Dreigiau, Scarlets, Cymru, Cymru 7 Bob Ochr ), Elliot Dee (Dreigiau, Cymru) ac Olli Griffiths (Dreigiau, Cymru). Mae llawer o gyn-chwaraewyr yn chwarae ar draws cynghreiriau Undeb Rygbi Cymru tra bod dros 100 o chwaraewyr wedi cynrychioli Clwb Rygbi y Dreigiau dan 18 yn ystod eu hamser yn Coleg Gwent.
Cyflawniadau Tymor 2022/23Ìý
- Rownd Derfynol Bowlen Rygbi Colegau ac Ysgolion URC
- Harri Ackerman Cymru dan 20
- Harry Rees-Weldon Cymru dan 18
- Ioan Duggan Cymru dan 18
- Pum chwaraewr Academi’r Dreigiau
- 15 chwaraewyr Dreigiau dan 18
- 15 chwaraewyr Dreigiau dan 17
Cysylltiadau
I gael gwybod mwy am yr hyn y gall yr Academi ei wneud i chi, anfonwch e-bost at rugbyacademy@coleggwent.ac.ukÌý
Steven Llewellyn
steven.llewellyn@coleggwent.ac.ukÌýÌý
Hyfforddwr ein rheolwr tîm a’n blaenwr cynorthwyol. Mae Steve, sy’n gymwys ar Lefel 3 yr URC, wedi trefnu teithiau rygbi unwaith-mewn-oes ar draws De Affrica, Seland Newydd, Hong Kong ac Awstralia. Darlithydd yn Coleg Gwent ers dros 26 mlynedd.
Matthew Jones
matthew.jones@coleggwent.ac.ukÌýÌý
Cyn chwaraewr rygbi proffesiynol ac uwch chwaraewr rhyngwladol Cymru.
Yn gymwys ar Lefel 3 yr URC, Matthew yw cydlynydd yr academi rygbi a phrif hyfforddwr yr Academi i ddynion, ac mae wedi bod yn gyflogedig yn Coleg Gwent ers 10 mlynedd.
Scott Matthews
scott.matthews@coleggwent.ac.ukÌý
Mae Scott yn gyn-fyfyriwr Coleg Gwent, yn chwaraewr proffesiynol ac yn chwaraewr rhyngwladol gradd oedran Cymreig. Yn gymwys ar Lefel 3 yr URC, Scott yw hyfforddwr blaenwyr yr academi i ddynion ac mae wedi bod yn y swydd ers 6 blynedd.
Gradd Sylfaen mewn Rygbi
Mae’r Academi Rygbi wedi ennill statws achrededig Prifysgol De Cymru gan alluogi cyflwyno Gradd Sylfaen PDC mewn Rygbi.
Yr hyn y mae ein chwaraewyr presennol yn ei ddweud…
Galluogodd academi rygbi Coleg Gwent i mi gyfuno fy astudiaethau academaidd â’m dyheadau rygbi. Mae’r ffocws ar ddatblygu chwaraewyr yn yr academi wedi fy sbarduno i ddatblygu fel chwaraewr rygbi trwy fynediad at wybodaeth ddadansoddi, data perfformiad chwaraewyr, cryfhau a chyflyru a gemau rheolaidd. Mae’r academi wedi fy helpu i gyrraedd fy mhotensial fel chwaraewr rygbi ac mae wedi rhoi mynediad at nifer o gyfleoedd wrth symud i rygbi hŷn.
Astudiais ar gyrsiau Safon Uwch ar gampws Crosskeys Coleg Gwent ochr yn ochr ag academi rygbi Coleg Gwent. Gweithiodd yr academi o amgylch fy ngwersi gan olygu fy mod yn gallu gwella fel chwaraewr rygbi a chadw ar ben fy astudiaethau. Roedd yr academi hefyd o gymorth mawr o ran agwedd gymdeithasol yn y coleg am eich bod chi’n cael cyfle i gwrdd â phobl o ledled y coleg cyn i chi gyrraedd. Roedd yr hyfforddwyr a’r chwaraewyr hefyd yn groesawgar iawn ac roeddent wedi helpu i mi deimlo’n gyfforddus wrth i mi ymgartrefu yn ystod fy mlwyddyn gyntaf.
Rwy’n astudio ar gwrs Lefel 3 mewn chwaraeon yn Coleg Gwent ar hyn o bryd lle fy mod yn chwarae dros academi rygbi y coleg. Roedd bod yn rhan o’r academi rygbi yn berffaith i mi am ei bod yn cael ei hamserlennu o amgylch fy astudiaethau academaidd gan olygu bod modd i mi gael profiad o amgylchedd chwaraeon proffesiynol wrth astudio ar gyfer fy nghymhwyster. Wrth fod yn rhan o’r academi, rwyf wedi derbyn cefnogaeth gan hyfforddwyr proffesiynol sydd wedi rhoi cyngor penodol ar leoli a sesiynau adolygiad personol o amgylch fy ngwersi er mwyn gwella fy sgiliau fel chwaraewr proffesiynol. Rwyf wedi bod yn ffodus i ymuno â Chynghrair Genedlaethol Colegau Cymru lle chwaraeais yn erbyn timau o safon uchel. Yna, cefais fy newis gan raglen ranbarthol gradd oedran y Dreigiau. Ers hynny, rwyf hefyd wedi cynrychioli fy ngwlad yn nhîm Chwe Gwlad dan 18 oed Cymru a oedd yn brofiad anhygoel. Rwyf yn argymell Coleg Gwent a’r academi yn fawr iawn i unrhyw un sy’n dymuno cyfuno ei astudiaethau academaidd â’i ddatblygiad rygbi.