YMCA Dyfarniad mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£65.00
Dyddiad Cychwyn
03 Mehefin 2025
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
13:30
Amser Gorffen
20:30
Hyd
3 wythnos
Gofynion Mynediad
Nid oes rhagofynion ar gyfer y cymhwyster hwn.
Nid oes rhagofynion ar gyfer y cymhwyster hwn.
Ìý
Yn gryno
Nod y cymhwyster hwn yw cydnabod y sgiliau, y wybodaeth a’r cymwyseddau sydd eu hangen ar unigolyn i roi cymorth cyntaf brys yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys gallu asesu, diagnosio a thrin pobl sydd wedi cael eu hanafu cyn i staff sydd wedi cael hyfforddiant meddygol gyrraedd.
Dyma'r cwrs i chi os...
Rydych chi eisiau bod yn Swyddog Cymorth Cyntaf cymwysedig yn y gweithle. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cymorth cyntaf brys yn y gweithle ac Adnabod a rheoli salwch ac anafiadau yn y gweithle.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs yn cynnwys cymysgedd o daflenni gwaith a sgiliau ymarferol.
Dros 3 diwrnod, mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys:
- Rolau a chyfrifoldebau’r Swyddog Cymorth Cyntaf
- Asesu digwyddiad
- Adnabod arwyddion a symptomau anaf a salwch
- Helpu claf sy’n dioddef o anaf a salwch difrifol
- Adfywio oedolion - CPR a defnyddio AED diffibriliwr
- Anafiadau i’r Asgwrn Cefn
- Anafiadau / ymosodiadau cemegol
- Adwaith alergaidd gan gynnwys anaffylacsis
- Ysigiadau, straen a dadleoliadau
- Asthma
- Llosgiadau a sgaldiadau
- Trawiad ar y galon ac angina
- Anafiadau i’r pen
- Mân waedu a gwaedu difrifol
Byddwch yn cael asesiad ymarferol o gymhwysedd, a bydd angen darparu ymatebion byr i gyfres ragnodedig o gwestiynau. Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwch yn cael Tystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith. Bydd y cymhwyster yn ddilys am 3 blynedd.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae angen presenoldeb llawn am 3 diwrnod y cwrs.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae’r Tystysgrifau Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yn ddilys am 3 blynedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r cwrs hwn ar gael fel cymhwyster dydd ac fel cymhwyster gyda’r nos.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UCAW0617AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 03 Mehefin 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr