EAL Diploma NVQ mewn Gweithrediadau Peirianneg Perfformio Lefel 2
Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
2
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Datblygwyd y cymhwyster hwn i alluogi dysgwyr i ddangos cymhwysedd yn eu galwedigaeth beirianneg mewn rôl ymarferol megis gwaith gydag offer llaw, peiriannu, melino, CNC neu sgiliau turnio. Mae'r cymhwyster yn berthnasol i amrywiaeth eang o alwedigaethau peirianneg yn y sector, yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir.Â
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Mae'r cymhwyster wedi'i ddylunio gan ddiwydiant ar gyfer unigolion sy'n ymwneud â rôl beirianneg beth bynnag fo'r sector.  Â
Gall dysgwyr fod yn gyfrifol er enghraifft am redeg offer o ddydd i ddydd ac am ansawdd gwaith. Maent hefyd yn gallu monitro a rheoli offer ac ansawdd a gallant hefyd arfer rhywfaint o farn a gwneud penderfyniadau am y broses beirianneg.Â
Cynnwys y cwrs
Mae hwn yn Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ). Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau mewn peirianneg gan gynnwys y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.
Rhaid i'r dysgwr gyflwyno tystiolaeth (wedi'i chofnodi mewn portffolio) sy'n dangos yn glir eu bod wedi bodloni meini prawf asesu a deilliannau dysgu'r unedau a ddewiswyd.
Rhaid i'r dysgwr gyflawni'r unedau gorfodol a dewisol sy'n berthnasol i'w llwybr a'u rôl alwedigaethol
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd yn y gweithle felly mae'n rhaid i ddysgwyr fod yn gweithio mewn amgylchedd peirianneg.Â
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflwynir y cymhwyster hwn yn y gweithle ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu ymlaen llaw gyda chi a'ch cyflogwr. Â
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys 6 uned. Gall gymryd rhwng 6 a 14 mis i'w gwblhau. Gall dysgwyr ei gwblhau yn ôl eu pwysau eu hunain ond bydd ein tîm o aseswyr yn rhoi cynllun cychwynnol ar waith i gwblhau uned bob mis ac mae'n bosib ei gwblhau'n gynt. Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi ond, fel canllaw, rydym yn codi £500 y person ynghyd â ffioedd cofrestru ychwanegol y corff dyfarnu (tua £80).Â
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0034AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.