Sicrhau cyllid newydd ar gyfer Canolfan Beirianneg Gwerth Uchel HiVE
2 Chwefror 2023
Rydym mor falch o gyhoeddi cam newydd ymlaen yn natblygiad ein hadeilad HiVE hir ddisgwyliedig ym Mlaenau Gwent. Dyfarnwyd buddsoddiad newydd o £9 i Gyngor Blaenau Gwent fel rhan o gronfa Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU.
Seiber a Digidol, nid y llwybr gyrfa i chi? Meddyliwch eto!
30 Ionawr 2023
Gallai cymwysterau mewn technoleg seiber a thechnoleg ddigidol arwain at lwybr gyrfa cyffrous efallai nad oeddech wedi'i ystyried. Felly, mae technoleg yn sicr yn ddewis gyrfa sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Ond sut ydych chi'n gwybod a yw'n llwybr addas i chi?
Eich cefnogi i gyrraedd eich potensial
29 Ionawr 2023
Mae cychwyn yn y coleg yn gam mawr sy'n cynnwys addasu i nifer o bethau newydd. Rydym bob amser yn blaenoriaethu ein myfyrwyr yma yn Coleg Gwent. O gymorth academaidd i lesiant personol, rydym yma i chi bob amser! Dyma Libby-Mae Ford, cyn-fyfyriwr, yn sgwrsio â ni am ei phrofiad o astudio cyrsiau Safon Uwch a sut aeth hi ymlaen i ysgrifennu llyfr am iechyd meddwl o'r enw Through the Hourglass.
Anelu’n uchel gyda chyrsiau Safon Uwch yn Coleg Gwent
12 Rhagfyr 2022
Mae astudio cyrsiau Safon Uwch yn y coleg yn benderfyniad doeth iawn. Efallai nad yw’r coleg yn ddewis amlwg i’r rhai sy’n dymuno astudio Safon Uwch, ond gyda chyfradd basio o 99%, ynghyd â chanlyniadau sy’n gyson well na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r DU yn ystod y pum mlynedd diwethaf, Coleg Gwent yw’r dewis amlwg!
Myfyrwyr cwrs seiber yn serennu yng nghynhadledd JISC a'r her cartrefi clyfar
8 Rhagfyr 2022
Boed yn we-rwydo, yn feddalwedd wystlo, yn sbam neu'n faleiswedd; mae seiberddiogelwch yn ddiwydiant mawr. Felly, mae ein cyrsiau wastad yn addasu i gynnig y cyfleoedd a'r profiadau gorau i chi er mwyn llwyddo yn y sector hwn. Drwy gyfres o weithgareddau, cystadlaethau a digwyddiadau i gyfoethogi'ch dysg, fel Cynhadledd JISC a'r Her Cartrefi Clyfar, byddwch yn y sefyllfa orau i ddechrau ar eich gyrfa.
O swricatiaid i ddraenogod i ddrewgwn - dewch i gwrdd â'n preswylwyr newydd
6 Rhagfyr 2022
Mae ein canolfan gofal anifeiliaid, sydd wedi'i adnewyddu'n sylweddol yn ddiweddar, ar Gampws Brynbuga yn gartref i dros 200 o anifeiliaid, gan gynnwys ymlusgiaid, mamaliaid, adar ac infertebratau.