Addewid Cyflogwr yn mynd o nerth i nerth
12 Gorffennaf 2022
Mae'r Addewid Partneriaeth Cyflogwr yn parhau i dyfu a datblygu wrth nesáu at ei ben-blwydd cyntaf eleni. Ym mis Mehefin, cynaliasom ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer cyflogwyr ar safle cwmni sydd newydd gofrestru gyda ni, Tiny Rebel Brewery.
Edrych yn ôl: Blwyddyn ar ôl ennill Gwobr Amgylcheddol Coleg y Flwyddyn
11 Gorffennaf 2022
Y llynedd, enwyd Coleg Gwent yng Ngwobr Coleg y Flwyddyn yn y Gwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol cyntaf, ac rydym yn falch o fod yn llysgenhadon yr amgylchedd. Felly, rydym yn parhau i hyrwyddo cynaliadwyedd a'r amgylchedd ac rydym yn falch o noddi y Wobr Entrepreneur Amgylcheddol Cenedlaethol eleni.
GÅ´YL SGILIAU BYW'N ANNIBYNNOL 2022 - dathliad ar draws y campysau
8 Gorffennaf 2022
Ar 16eg Gorffennaf, cynhaliwyd digwyddiad cyffrous ar draws y coleg ar gyfer dysgwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol (ILS) - Gŵyl Sgiliau Byw'n Annibynnol 2022! Cafodd yr holl staff a dysgwyr ILS o'n 5 campws eu gwahodd i'r caeau chwarae tu ôl i Barth Dysgu Torfaen yng Nghwmbrân, am ddiwrnod i ddathlu'r gymuned ILS a chymryd rhan mewn ystod o weithgareddau cynhwysol.
Awydd cael blas ar beirianneg?
5 Gorffennaf 2022
Ddim yn siŵr a yw cymwysterau Safon Uwch yn iawn i chi? Ydych chi erioed wedi ystyried beth arall allwch chi ei wneud ar ôl gadael yr ysgol? Mae Peirianneg yn un opsiwn o blith llawer y gallwch ei archwilio.
Canu clodydd ein prentisiaid penigamp
27 Mehefin 2022
Ddydd Iau 16 Mehefin cafodd gwobrau prentisiaeth blynyddol Coleg Gwent eu cynnal drachefn. Am y tro cyntaf ers tair blynedd, cafodd y digwyddiad ei gynnal yn y cnawd er mwyn dathlu ein prentisiaid penigamp. Enwebwyd prentisiaid anhygoel gan aseswyr a chyflogwyr fel ei gilydd!
Interniaid yn dathlu Wythnos Anabledd Dysgu gyda charfan gyntaf lwyddiannus o gynllun peilot
24 Mehefin 2022
Yr wythnos Anabledd Dysgu hon, mae ein hinterniaid wedi cyrraedd diwedd y cwrs cyntaf o gynllun peilot drwy weithio gydag adrannau gwahanol o'r tîm Cyfleusterau yn Ysbyty Nevill Hall.