Dathlu ein Gwobrau Dysgwyr Blynyddol gyda'r cyflwynydd chwaraeon o Gymru, Jason Mohammad
23 Mehefin 2022
Y ddoe, gwnaethom gynnal ein digwyddiad gwobrau blynyddol - dathliad o'n holl ddysgwyr ysbrydoledig a'u cyflawniadau drwy gydol y flwyddyn academaidd. Felly, wrth i'r flwyddyn academaidd ddod i ben, gwnaethom fanteisio ar y cyfle i ddathlu ymrwymiad ein dysgwyr i'w hastudiaethau gyda'r cyflwynydd chwaraeon ysbrydoledig o Gymru, Jason Mohammad.
Dathlu lansiad swyddogol ein Hwb Seiber
17 Mehefin 2022
Yn ddiweddar cynhaliwyd digwyddiad lansio llwyddiannus ar gyfer ein Hwb Seiber newydd anhygoel ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy. Lansiwyd yr Hwb Seiber fel rhan o Cyber College Cymru, sef rhaglen sy’n anelu at eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn seiberddiogelwch.
Dysgwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol yn agor siop dros dro i Ofal Hosbis Dewi Sant
16 Mehefin 2022
Gallai Dysgwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol (ILS) ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent fod yn destun sgwrs i Alan Sugar gyda'u menter ddiweddaraf, siop fanwerthu elusennol dros dro i godi arian i Gofal Hosbis Dewi Sant!
Ysbrydoli’r genhadlaeth nesaf o wyddonwyr bwyd
14 Mehefin 2022
Gwnaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd groesawu criw o’n myfyrwyr Gwyddoniaeth Gymhwysol am ddiwrnod llawn o brofiad yn y Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, i gael blas ar y dewisiadau gradd a’r llwybrau gyrfa ar gael iddynt yn y sector gwyddoniaeth bwyd a maeth.
Merched Crosskeys yn bencampwyr chwaraeon Cymru
13 Mehefin 2022
Bu’r flwyddyn academaidd hon yn llwyddiant ysgubol i’n academïau rygbi a phêl-rwyd merched. Mae’r timau wedi rhagori yn eu pencampwriaethau a’u cystadlaethau, gan ddod at y brig gyda rhestr o anrhydeddau a chyflawniadau y tymor hwn.
Realiti Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
25 Mai 2022
Ein dysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw’r diweddaraf i gael profi ychydig o dechnoleg newydd gyffrous fel rhan o’u hastudiaethau – realiti estynedig. Drwy gyfres o fideos a ddyluniwyd yn arbennig, gall dysgwyr gael mynediad at ystod o leoliadau ac amgylcheddau gofal, gan eu paratoi nhw ar gyfer eu lleoliadau gwaith.